Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Diolch am yr ateb, Weinidog. Y strategaeth bwyd môr yr ydych newydd ei chrybwyll yn fanna—pwy biau’r strategaeth yma? Yn ôl beth yr wyf yn ei ddeall, strategaeth Seafish Wales yw hi, ac nid strategaeth y Llywodraeth. A fedrwch chi gadarnhau, felly, bod y Llywodraeth yn cytuno â’r strategaeth ac am weld amcanion y strategaeth yn cael eu gwireddu ac, yn benodol, gan fod y strategaeth yn rhoi targed o dwf o 30 y cant mewn cynnyrch bwyd môr o Gymru, sut y byddwch yn cyrraedd y targed hwnnw o gofio’r amcanion sydd gyda chi o dan Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ac, wrth gwrs, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015?