Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Lluniwyd y strategaeth drwy weithio—yn sicr, bu fy swyddogion yn gweithio—gyda’r diwydiant. Hwy a’i datblygodd. Fe’i lansiwyd gennyf fi, fel y dywedwch. A chredaf fod y Llywodraeth a’r diwydiant yn rhannu’r weledigaeth honno ar gyfer y strategaeth, sef diwydiant bwyd môr ffyniannus, bywiog, diogel a chynaliadwy yng Nghymru. Credaf ei bod yn hollol iawn ein bod yn hyrwyddo ansawdd a chynaliadwyedd cynhyrchion bwyd môr Cymru—mae hynny’n gwella’r enw da—ac i gyflawni hynny, bydd fy swyddogion, unwaith eto, yn gweithio nid yn unig gyda’r diwydiant, ond gyda phartneriaid eraill hefyd.