Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf hefyd yn cydnabod strategaeth bwyd môr Llywodraeth Cymru, sy’n anelu at gynnydd o 30 y cant yng nghynhyrchiant pysgodfeydd a dyframaeth erbyn 2025. Yn y strategaeth hon, rydych yn sôn am ehangu cynhyrchiant dyframaethol cynaliadwy, ac mewn perthynas â hynny, a allwch ddweud wrthym beth yn union y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog datblygiad cynaliadwy pysgodfeydd newydd yn nyfroedd Cymru?