Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Diolch, Weinidog. Yn ddiweddar, cadeiriais gyfarfod amlasiantaethol yng nghyrchfan eiconig y Cymoedd i dwristiaid, Ffordd Goedwig Cwmcarn, i drafod pryderon gwirioneddol ynglŷn â’r cynnydd mewn troseddau tirwedd, ac yn benodol ar Dwyn Barlwm. Roedd cynrychiolwyr o gynghorau Caerffili, Blaenau Gwent a Thorfaen yn bresennol, ynghyd â’r heddlu a’r gwasanaeth tân, yn ogystal â chomisiynydd heddlu a throseddu Gwent.
Ym mis Medi 2015, comisiynwyd pecyn cymorth troseddau tirwedd ar gyfer ucheldiroedd de-ddwyrain Cymru er mwyn datblygu pecyn cymorth arloesol i fynd i’r afael â throseddau tirwedd mewn ardal a gwmpesir gan sawl awdurdod lleol. Ariannwyd y prosiect pwysig hwn drwy gronfa natur arloesol Llywodraeth Cymru, sef cronfa gwerth £6 miliwn a gyhoeddwyd yn 2013 gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, gyda’r nod o hybu camau gweithredu cydweithredol a chydgysylltiedig ar sail ardal. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i gynorthwyo’r awdurdodau lleol ac asiantaethau partner i fynd i’r afael â malltod troseddau tirwedd?