<p>Troseddau Tirwedd</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:48, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch. Dyluniwyd cynllun rheoli cynaliadwy gwerth £10 miliwn ein rhaglen datblygu gwledig i ddarparu nifer o fanteision gan gynnwys mynd i’r afael â gweithredoedd gwrthgymdeithasol ac anghyfreithlon yn ein tirwedd fynyddig werthfawr. Unwaith eto, hoffwn annog pawb sydd â diddordeb yn hyn i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb.

Fe sonioch am y pecyn cymorth troseddau tirwedd a gyflwynwyd fel rhan o’n prosiect Tirweddau Angof, rhan o’r gronfa natur. Mae’n amlinellu mecanweithiau ar gyfer rheoli, lliniaru a thrin ystod o ymddygiadau gwrthgymdeithasol mewn tirweddau mynyddig, ac yn nodi dull o weithredu y gellid ei drosglwyddo wedyn i ardaloedd eraill yng Nghymru.

Rwy’n ymwybodol o nifer o weithredoedd ers hynny i fynd i’r afael â throseddu yn uniongyrchol, gan gynnwys gweithgarwch i atal gyrru oddi ar y ffordd, mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon, a rhwystrau tân i leihau effaith tanau bwriadol a thanau gwyllt naturiol.