Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Mae beicio anghyfreithlon oddi ar y ffordd yn fath o drosedd tirwedd sy’n niweidio ein tirwedd naturiol ac sy’n gallu bod yn beryglus i’r cyhoedd hefyd. Yn ddiweddar, datgelodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod 22 o bobl wedi cael eu harestio am feicio anghyfreithlon oddi ar y ffordd yn ne Cymru ym mis Tachwedd yn unig, ac mae llawer o drigolion rwyf wedi siarad â hwy yn fy etholaeth wedi tynnu sylw at y problemau a achosir gan y gweithgaredd hwn. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r math hwn o drosedd tirwedd?