Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Rydym wedi buddsoddi llawer yn brwydro yn erbyn hyn, ac mae’n drosedd ac yn anghyfreithlon. Rydym wedi ariannu mentrau Taclo Tipio Cymru ers 2007 ac yn gweithio’n agos iawn gyda hwy. Un peth rydym yn ystyried ei wneud, wrth symud ymlaen, yw—mae rhai awdurdodau lleol wedi dweud wrthyf, ‘Weithiau, efallai mai dim ond un bag bin du a adawyd yno.’ Felly, rydym yn ystyried ymgynghori ynglŷn ag a ddylem weithredu hysbysiadau cosb benodedig am dipio anghyfreithlon ar raddfa fach, oherwydd, yn sicr, mae awdurdodau lleol wedi dweud wrthyf eu bod yn meddwl y byddai hynny’n helpu gyda’r broblem.