Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Nid ydym wedi crybwyll parthau perygl nitradau hyd yn hyn, sef un o’r arfau y mae’r Llywodraeth yn bwriadu eu defnyddio i fynd i’r afael ag ansawdd dŵr a dŵr ffo. A gaf fi dynnu sylw’r Gweinidog at ymagwedd a fabwysiadir mewn rhannau o Ffrainc, ac yn enwedig yn Llydaw, ac a welais dros yr haf, lle y maent yn defnyddio ymagwedd amaeth-goedwigaeth a elwir yn ‘bocage’, neu ‘argoed’, fel y byddem yn ei alw yn Gymraeg? Credaf fod gan y Llydawiaid air tebyg, ond nid wyf am roi cynnig ar yr ynganiad Llydewig. Mae’n ymwneud â phlannu gwrychoedd a choed, ac mae adroddiad gan yr UE yn dweud amdano, ei fod yn dangos bod defnydd coed o faetholion yn lleihau crynodiad nitradau’r pridd, ac y gall dadnitreiddio leihau’r nitradau a gollir. Ar raddfa’r wahanfa ddŵr, roedd llif y nitradau a gâi eu cario ar wyneb y dŵr yn gostwng pan oedd dwysedd coed a gwrychoedd yn cynyddu.
Felly, efallai bod dewisiadau eraill ar gael yn lle’r modelau y mae’r Llywodraeth yn eu hystyried, a byddwn yn ei hannog i edrych ar sut y gallem ddefnyddio rhai nodweddion naturiol a phlannu coed a gwrychoedd naturiol i ymdrin â llif nitradau, fel dewis amgen, efallai, yn y parthau perygl nitradau.