<p>Statws Ecolegol Dyfroedd Mewnol a Dyfroedd Arfordir Cymru</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:56, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Byddwn yn sicr yn fwy na pharod i edrych ar yr hyn a wneir yn Llydaw. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod yn ymgynghori ar hyn o bryd ar weithrediad y gyfarwyddeb nitradau yng Nghymru. Credaf fod yr ymgynghoriad yn dod i ben yn ystod yr wythnos neu ddwy nesaf. Felly, unwaith eto, byddwn yn annog pawb sydd â diddordeb i ddarllen yr ymgynghoriad ac i ymateb yn unol â hynny, ond wrth gwrs, rwy’n fwy na pharod i edrych ar arferion gorau mewn mannau eraill.