Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Wel, fel y dywedais, rydym yn annog cymunedau ledled Cymru i ddod at ei gilydd i rannu syniadau ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy lleol. Mae gennym bot o arian. Credaf, ar hyn o bryd, fod gennym wyth. Credaf fod wyth wedi eu cwblhau a bod chwech ar y gweill, neu’r ffordd arall efallai, ond rwyf wedi gweld un neu ddau fy hun dros yr haf. Soniais am y cynllun ynni dŵr. Euthum i ymweld â fferm wynt gymunedol hefyd. Felly, mae’n braf iawn gweld y prosiectau hyn yn dod at ei gilydd, ac rwy’n fwy na pharod i gyfarfod ag unrhyw Aelod sy’n awyddus i mi gyfarfod â thrigolion, os oes angen, i drafod y cynlluniau hyn yn fwy manwl.