Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Mae Bil Cymru yn y Cyfnod Pwyllgor ar hyn o bryd yn Nhŷ’r Arglwyddi, ac ar ei ffurf bresennol, byddai’n datganoli pwerau cynllunio ynni i Gymru ar gyfer pob prosiect cynhyrchu hyd at 350 MW, ac mae hynny i’w groesawu oherwydd, yn wahanol i Neil Hamilton, rwy’n siŵr fod y ddau ohonom yn ymwybodol fod yna lawer iawn o gyfleoedd i economi de-ddwyrain Cymru a mannau eraill. Cyflwynwyd rhai gwelliannau yn Nhŷ’r Arglwyddi a fuasai’n galluogi Cymru i fwrw ymlaen â’r holl argymhellion yn ‘Dyfodol Ynni Craffach i Gymru’ y pedwerydd Cynulliad, a gynhyrchwyd gan bwyllgor yr amgylchedd. Byddai hyn yn caniatáu i’r Cynulliad ddeddfu ar bob agwedd ar gynhyrchu, trosglwyddo, dosbarthu a chyflenwi trydan, heblaw ynni niwclear. Fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, yn aml dyma’r rhwystr i brosiectau bach, fod y trosglwyddwyr yn codi pris gwarthus o uchel ac yn lladd y prosiect. Felly, a fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r gwelliannau ynni newydd hyn ym Mil Cymru?