<p>Pecynnau Bwyd Polystyren</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 3:00, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch. Ar hyn o bryd rydym yn gwerthuso ein strategaeth wastraff er mwyn sicrhau y rheolir adnoddau i gynhyrchu manteision cynaliadwy i Gymru. Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth â’r diwydiant pecynnu a sefydliadau megis WRAP i hybu’r broses o optimeiddio pecynnu ac i gyfyngu arno lle bo hynny’n bosibl, waeth beth fo’r deunydd.