<p>Pecynnau Bwyd Polystyren</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 3:01, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch. Efallai eich bod wedi gweld y rhaglen ‘Keeping a Lid On It’ ar BBC One neithiwr. Tynnai sylw at broblemau gyda chasglu biniau bob pedair wythnos yng Nghonwy. Ond un o’r materion a ddeilliodd o hynny yw bod oddeutu 70 y cant o’r ysbwriel ar draethau Cymru yn bolystyren/plastig, a bod pawb erbyn hyn yn defnyddio’r cwpanau polystyren hyn ar gyfer coffi a phopeth. Erbyn hyn, maent yn rhan sylweddol o’n safleoedd tirlenwi. Mae dros 100 o ddinasoedd ledled y byd wedi gwahardd, neu yn y broses o wahardd, deunydd pecynnu bwyd polystyren, a dywedodd eich rhagflaenydd y llynedd y byddai’n edrych i weld a oes unrhyw beth penodol y gallwn ei wneud yng Nghymru i fynd i’r afael â rhai o’r materion hyn. A allech amlinellu beth y byddwch yn ei wneud i fynd i’r afael â hyn? A wnewch chi ystyried ardoll ar eitemau o’r fath, ac a ydych mewn sefyllfa i adrodd ar ganfyddiadau’r prosiect ymchwil ar y cyd rhwng Prifysgol Abertawe a’r Gymdeithas Cadwraeth Forol a gomisiynwyd gan eich adran?