<p>Pecynnau Bwyd Polystyren</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 3:04, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Rwyf bellach wedi dod o hyd i’r ystadegau penodol sydd gennyf ynglŷn â pholystyren. Cynhaliwyd yr arolwg hwn gan Cadwch Gymru’n Daclus yn 2015-16, a gwelsant fod 5.2 y cant o sbwriel yn bolystyren, ond roedd y rhan fwyaf o hwnnw, 3.2 y cant, yn bolystyren arall—felly, nid deunydd pecynnu yn unig. Ond roedd 2 y cant yn eitemau bwyd brys. Rwy’n fwy na pharod i edrych ar ddeunydd pecynnu yn gyffredinol, a holl faes deunydd pecynnu, oherwydd wyddoch chi, pe gallem leihau deunydd pecynnu, credaf y byddai hynny’n helpu cymaint, ac er ein bod yn arwain o ran ailgylchu, gwyddom fod yna 50 y cant o wastraff bin du y gellid ei ailgylchu o hyd. Felly, mae angen i ni ystyried holl sbectrwm deunydd pecynnu yn y dyfodol.