Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Rwy’n siŵr fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol mai Rhydychen, yn gynharach eleni, oedd y ddinas gyntaf yn y Deyrnas Unedig i wahardd pecynnau na ellir eu hailgylchu oddi ar faniau tecawê yn y ddinas, ac o dan reolau newydd yno, mae’n rhaid i’r holl becynnau a llestri a ddefnyddir gan werthwyr stryd fod yn ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu neu’n ddeunyddiau bioddiraddiadwy. Felly, credaf ein bod eisoes wedi dweud yma fod Cymru yn arwain mewn cynifer o faterion amgylcheddol. A allai edrych ar beth y gallwn ei wneud ynglŷn â hyn, oherwydd credaf ei fod i’w weld yn enghraifft dda o ble y gellid rhoi camau ar waith, ac a fuasai’n ystyried gwahardd pecynnau bwyd brys nad ydynt yn fioddiraddiadwy yng Nghymru?