Part of the debate – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Diolch yn fawr iawn i Lee Waters am gyflwyno’r ddadl hon a sicrhau’r ddadl hon, a hefyd am ildio yma. Ond a fyddai’n cytuno hefyd, yn ei sylwadau agoriadol, fod hyn yn fater o gyfiawnder cymdeithasol yn ogystal? Gall amaethyddiaeth fanwl a’r cyfan sydd ynghlwm wrthi ddrysu pobl, ond mewn gwirionedd, nodwyd ei bod yn rhan o’r ateb i’r broblem o sut i fwydo poblogaeth yr amcangyfrifir y bydd yn tyfu—i 9.1 biliwn erbyn 2050. Nid dyma’r unig ateb, ond mae’n un o’r arfau sydd gennym ar gyfer bwydo’r boblogaeth gynyddol honno.