Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Cytunaf yn llwyr fod iddi fanteision lluosog, o ran cynhyrchu bwyd, ond hefyd o ran lleihau niwed i’r amgylchedd, sydd hefyd yn helpu rhai o’r bobl dlotaf yn y byd drwy liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Nawr, nid yn unig y mae’r algorithmau hyn a gymhwyswyd yn fanwl yn golygu bod llai o bethau’n mynd i mewn, am lai o gost i’n ffermwyr, ac i’r amgylchedd gyda llai o gemegau niweidiol, ond mae mwy o bethau’n dod allan, yn union fel y mae Huw Irranca-Davies newydd ei awgrymu. Mae ymchwil wedi dangos y gallai amaethyddiaeth fanwl gynyddu cynnyrch cnydau cymaint â 67 y cant. Mewn cyfnod o ansicrwydd cynyddol ynglŷn â’r cyflenwad bwyd a dŵr yn fyd-eang, mae ffigurau fel y rhain yn bwysig. Yn Seland Newydd, mae ffermwyr wedi datblygu ffordd o gymryd micro-fesuriadau o rannau helaeth o dir fferm i nodi faint o laswellt sydd yn y padog fel y gellir dosbarthu buchod godro yn y modd mwyaf effeithiol ar gyfer eu bwydo. Mae’n rhybuddio ffermwyr ynglŷn â faint o borthiant sydd ganddynt ac yn nodi ardaloedd lle y mae’r cynhyrchiant yn isel sy’n galw am ymyrraeth—er enghraifft, rhagor o wrtaith. Trwy fwydo eu hanifeiliaid yn fwy effeithlon, mae ffermwyr yn Seland Newydd wedi helpu i gynyddu allforion i Tsieina 470 y cant mewn un flwyddyn—ad-daliad economaidd clir am wybod union leoliad a chrynodiad glaswellt mewn cae: defnyddio amaethyddiaeth fanwl.
Mae pocedi o arloesedd ar draws Cymru, yn ein sefydliadau addysg bellach ac uwch. Yn ddiweddar, cyfarfûm â phrifathro Coleg Sir Gâr yn Llanelli, Barri Liles, a ddywedodd wrthyf sut y mae un o’u campysau eisoes yn mwynhau’r manteision. Yn eu fferm yng Ngelli Aur, ger Llandeilo, yn etholaeth Dwyrain Caerfyrddin, maent wedi sicrhau arbedion effeithlonrwydd sylweddol mewn cynhyrchiant llaeth, gan wneud y defnydd gorau o laswellt a lleihau mewnbwn porthiant drud. Maent yn defnyddio delweddau lloeren i fesur maint caeau a dyraniadau pori i’w buchesi. Caiff data twf glaswellt ei fesur yn wythnosol â mesuryddion plât cyn ei gofnodi ar ap ffôn clyfar a’i gydamseru â rhaglen gofnodi ar y we. Maent hefyd yn treialu llywio â lloeren mewn arbrofion i osod gwrtaith drwy ddefnyddio dulliau manwl. Ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig wedi cymryd rhan mewn datblygiadau arloesol ym maes glaswellt porthiant. Nawr, efallai ei fod yn swnio’n bell i ffwrdd cyn y daw goblygiadau ymarferol y gwaith ymchwil hwn yn glir. Mae’r glaswelltau hyn wedi dangos addewid cyffrous o ran lliniaru llifogydd, rhywbeth sydd wedi bod ar ein meddyliau gryn dipyn yr wythnos hon.
Nid ydym wedi dechrau crafu wyneb y potensial sydd i amaethyddiaeth fanwl i Gymru. Siaradais yr wythnos diwethaf am y gweithdy cyhoeddus a gynhaliais yn Llanelli yn ddiweddar, gweithdy a gynlluniwyd i helpu i ddatblygu glasbrint swyddi ar gyfer fy etholaeth, a’r consensws llethol oedd bod arnom angen mwy o uchelgais ar gyfer yr ardal os ydym i wrthsefyll y stormydd economaidd sydd ar y ffordd. Ac nid yn fy etholaeth i yn unig y mae hynny’n wir, mae’n wir ar draws Cymru. Ac mae amaethyddiaeth fanwl yn rhoi cyfle rhagorol i ni arddangos yr uchelgais hwn.
Un o’r diwydiannau a fydd yn debygol o deimlo baich Brexit yw ein sector cynhyrchu a gweithgynhyrchu bwyd. Bydd cael gwared ar y polisi amaethyddol cyffredin a’r tebygolrwydd y caiff tariffau allforio bwyd eu gosod yn ergyd galed i’n ffermwyr, ac mae angen i ni baratoi ar gyfer hyn, ac i ddod o hyd i ddulliau newydd, dychmygus, arloesol o hybu twf yn y sector hanfodol hwn—sector sy’n llythrennol yn rhoi bwyd ar ein byrddau. Mae’r amharu ar y farchnad a ysgogwyd gan yr hyn a elwir yn gyffredinol yn ‘bedwerydd chwyldro diwydiannol’ yn cynnig cyfle i ni hefyd wneud yn union hynny: ailddychmygu economi fwyd Cymru er mwyn sefydlu Cymru fel ffwrnais arloesedd a diwydiant orllewinol y DU, gan gryfhau ein gallu ar yr un pryd i wrthsefyll rhai o’r heriau byd-eang mwyaf sy’n ein hwynebu.
Fe ddylem, ac mae angen i ni groesawu data mawr â breichiau agored. Mae’r cynnig trawsbleidiol sydd gerbron y Cynulliad heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth a fydd yn rhoi Cymru ar flaen y gad o ran datblygu amaethyddiaeth fanwl. Byddwn yn annog y Gweinidogion a’r Aelodau i fuddsoddi egni a brwdfrydedd er mwyn gwneud hynny. Diolch.