Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n rhannu eich pryder am natur y ddadl hon, Ysgrifennydd y Cabinet. Bûm yn cadeirio ymchwiliad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar yr union bwnc hwn, gyda rhai argymhellion synhwyrol iawn y gellid eu datblygu ar sail drawsbleidiol i fynd i’r afael â’r hyn sy’n destun pryder real iawn i aelodau o’r cyhoedd. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn symud ymlaen gyda’n gilydd ar hyn, yn unedig fel Cynulliad, i roi sylw i broblem go iawn tâl gormodol yn y sector cyhoeddus.