9. 9. Dadl Plaid Cymru: Targedau Diagnosis Canser

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:29, 23 Tachwedd 2016

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gael agor y ddadl yma, sy’n galw am ffocws ar gyrraedd targed o 28 diwrnod ar gyfer rhoi diagnosis i bobl efo canser. Argymhelliad ydy hwn, wrth gwrs, gan y tasglu canser annibynnol, tasglu sy’n cynnwys rhai o glinigwyr gorau Ewrop, a ddywedodd:

‘We recommend setting an ambition that by 2020, 95% of patients referred for testing by a GP are definitively diagnosed with cancer, or cancer is excluded, and the result communicated to the patient, within four weeks’.

Mae’r adroddiad hefyd yn awgrymu y dylai 50 y cant gael eu canlyniad o fewn pythefnos.

Mae rhai pedantig wedi tynnu fy sylw at y ffaith bod y tasglu canser annibynnol yn edrych yn benodol ar Loegr. Yr awgrym, am wn i, ydy na ddylem ni fyth edrych i mewn i beth sy’n digwydd mewn llefydd eraill, neu efallai hyd yn oed fod canser yn newid ffurf mewn rhyw ffordd pan mae’n croesi ffin, ond, wrth gwrs, mae’r argymhelliad hefyd wedi cael ei gymeradwyo gan Ymchwil Canser fel rhywbeth a fyddai yn benodol o werth i Gymru hefyd. Yr un ydy anghenion iechyd pobl. Yr un ydy pwysigrwydd diagnosis cynnar.

Mae rhestrau aros diagnostig yn fwy yma na dros y ffin. Mae unrhyw ddehongliad rhesymol o ddata, rwy’n meddwl, yn dangos hynny. Ac hefyd oherwydd canllawiau newydd gan NICE, sydd yn berthnasol i Gymru, mae’n mynd i fod yn haws i feddygon teulu gyfeirio pobl i gael eu profi. Felly, mae cynnydd mewn capasiti, rwy’n meddwl, yn mynd i fod yn angenrheidiol.

Rydym ni wedi gweld gwelliant mewn amseroedd aros diagnostig ar gyfer radioleg yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac yn amlwg rydym yn dymuno gweld hynny yn parhau. Ond nid yw’r ffigurau yn well nag oedden nhw yn ôl ym mis Hydref 2009, er enghraifft, felly rydym yn dal yn ceisio dod dros y cyfnod yna rhwng 2011 a 2014 pan aeth amseroedd aros drwy y to.

Mae’n waeth byth pan mae’n dod i ddiagnosis endosgopi, sy’n hanfodol, wrth gwrs, efo canser y perfedd. Yma, mae’r amser aros canolrifol wedi mynd o ychydig dros dair wythnos yn 2009 i ychydig o dan chwech wythnos ar gyfer y rhan fwyaf o’r flwyddyn yma. Nid ydym wedi gweld unrhyw welliant go iawn ers 2014, a chofiwch mai’r canolrif ydy hyn, sy’n golygu bod hanner y bobl yn disgwyl hyd yn oed yn hirach na hyn. Felly, rydych chi yn gallu gweld yr heriau sy’n ein wynebu ni i weithredu targed o 28 diwrnod ar gyfer diagnosis i 95 y cant o bobl.

Mae’r Gweinidog, rwy’n meddwl, wedi honni o’r blaen fod y targed, i raddau, yn cael ei gyrraedd mewn gwirionedd, ond rhywsut nad yw’n cael ei gofnodi. Y cyfan ddywedaf i am hynny ydy mae’n siŵr ei bod hi’n rhwystredig iawn iddo fo fod yr holl dargedau mae ei Lywodraeth o yn eu cyrraedd ddim yn cael eu cofnodi a’u cyhoeddi, pan fydd gymaint o’r targedau sydd yn cael eu cofnodi yn dangos methiant. Gallai rhai pobl gasglu o hynny fod pethau ddim yn mynd cystal ag y byddai’r Gweinidog yn dymuno eu gweld.

Ond gadewch i ni ganolbwyntio ar rywbeth arall mae’r Gweinidog wedi ei ddweud yn hollol gywir droeon: mae eisiau i ni edrych a chanolbwyntio ar ganlyniadau. Rwy’n cytuno 100 y cant efo hynny. Felly, gadewch i ni bwysleisio’r pwysigrwydd yma o gael diagnosis cynharach, a beth mae hynny yn ei olygu i ganlyniadau. Mae ffigurau diweddar yn dangos bod 93.2 y cant o gleifion a gafodd ddiagnosis yn y cyfnod cynharaf o ganser y perfedd wedi goroesi am bum mlynedd, o’i gymharu â dim ond 6.6 y cant o’r rhai lle roedd y clefyd wedi datblygu ymhellach. Ar gyfer canser yr iau, mi fydd rhwng 50 y cant a 70 y cant o gleifion cyfnod A yn goroesi am bum mlynedd efo triniaeth, o’i gymharu ag amser goroesi canolrif o rhwng chwech ac 11 mis ar gyfer y rhai yng nghyfnod C. Mae mwy na 90 y cant o ferched sy’n cael diagnosis o ganser y fron yn y cyfnod cynharaf yn goroesi’r clefyd am o leiaf pum mlynedd, o’i gymharu â rhyw 15 y cant o ferched sy’n cael diagnosis yn y cyfnod mwyaf datblygedig o’r clefyd. Mae mwy na 90 y cant o ferched sy’n cael diagnosis o ganser yr ofari yn y cyfnod cynharaf yn goroesi am o leiaf pum mlynedd, o’i gymharu â rhyw 5 y cant o ferched sy’n cael diagnosis yn y cyfnod mwyaf datblygedig. Mae’r ffigurau yn drawiadol iawn. Rydym yn gwybod, wrth gwrs, ond mae’n werth weithiau i ni edrych ar y ffigurau moel fel hyn, i’n hatgoffa ni o bwysigrwydd gwneud y diagnosis yn gynnar.

Mae yna sôn yn aml am gymharu Cymru â Lloegr. Mae’n deg mewn ambell i gyd-destun, ddim yn deg mewn cyd-destunau eraill ond, wrth gwrs, dylem ni yng Nghymru a Lloegr efo’n gilydd fod yn edrych tuag at beth sy’n digwydd lle mae perfformio i’w weld ar ei orau. Ambell i enghraifft i chi: ffigurau goroesi canser y fron am bum mlynedd, 79.1 y cant yn Lloegr; 78 y cant yng Nghymru—digon tebyg; yn Sweden, y ffigur yn 86 y cant, a dyna ddylem fod yn anelu amdano fo. Yn Lloegr, 80 y cant o ddynion efo canser y prostad yn dal yn fyw bum mlynedd yn ddiweddarach; 90 y cant ydy’r ffigur yn Awstria; 78 y cant yng Nghymru. Canser y coluddyn, wedyn, mae ffigurau goroesi pum mlynedd yn Lloegr yn 51.3 y cant; ychydig o dan 50 y cant yng Nghymru; a’r Almaen yn taro dros 60 y cant—62.2 y cant—efo’r cyfartaledd Ewropeaidd yn 57 y cant. Felly, unwaith eto, anelu am y goreuon, achos mae pob un o’r bobl hyn yn y gwledydd eraill sy’n cael diagnosis cynnar yn bobl sy’n elwa yn yr hirdymor, ac mae’r graddfeydd goroesi yn dangos hynny i ni.

Mae yna sawl rheswm am ddiagnosis hwyr: amharodrwydd cleifion, yn aml iawn, i ymweld â meddyg teulu efo’r peswch parhaus yna neu’r lwmp sydd ddim yn diflannu, o bosib. Efallai bod y claf wedi gwrando ar gyngor y Llywodraeth i beidio ag ymweld â meddyg teulu oni bai bod rhaid. Mae yna lawer o resymau, wrth gwrs, pam fod pobl yn peidio mynd. Ond, mae amseroedd aros hir yn ffactor hefyd ac weithiau mae symptomau cymhleth angen profion cymhleth o’r math rydym wedi’u gweld yn cael eu harloesi mewn canolfannau amlddisgyblaethol yn Nenmarc, sy’n rhywbeth rydw i wedi cyfeirio ato fo sawl tro yn y fan hon. Unwaith eto, mae Ymchwil Canser yn cefnogi canolfannau amlddisgyblaethol fel hyn. Dyma chi un dyfyniad:

‘It’s clear that early diagnosis is crucial to improving survival in many cancer types. Some cancer types are more amenable to this, for example, breast and skin cancers that have specific symptoms. Particular challenges are present in cancers where symptoms are vague.’

Mae’n rhaid inni roi bob cyfle drwy ganolfannau diagnostig a thrwy ddefnyddio’r arian sydd wedi’i neilltuo drwy’r gyllideb, yn dilyn y trafodaethau efo Plaid Cymru, i sicrhau bod y targed hollbwysig yma’n un o’r prif flaenoriaethau wrth inni dargedu arian prin, ond arian sydd yna ar gyfer sicrhau iechyd pobl Cymru yn y dyfodol.