– Senedd Cymru ar 23 Tachwedd 2016.
Symudwn ymlaen at y ddadl Plaid Cymru ar dargedau diagnostig canser, a galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig y cynnig.
Cynnig NDM6172 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod y tasglu canser annibynnol wedi galw am darged o 28 niwrnod ar gyfer diagnosis.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y buddsoddiad ychwanegol mewn cyfarpar diagnostig, a gafodd ei sicrhau gan Blaid Cymru yn nhrafodaethau'r gyllideb, yn helpu i gyrraedd y targed hwn.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gael agor y ddadl yma, sy’n galw am ffocws ar gyrraedd targed o 28 diwrnod ar gyfer rhoi diagnosis i bobl efo canser. Argymhelliad ydy hwn, wrth gwrs, gan y tasglu canser annibynnol, tasglu sy’n cynnwys rhai o glinigwyr gorau Ewrop, a ddywedodd:
‘We recommend setting an ambition that by 2020, 95% of patients referred for testing by a GP are definitively diagnosed with cancer, or cancer is excluded, and the result communicated to the patient, within four weeks’.
Mae’r adroddiad hefyd yn awgrymu y dylai 50 y cant gael eu canlyniad o fewn pythefnos.
Mae rhai pedantig wedi tynnu fy sylw at y ffaith bod y tasglu canser annibynnol yn edrych yn benodol ar Loegr. Yr awgrym, am wn i, ydy na ddylem ni fyth edrych i mewn i beth sy’n digwydd mewn llefydd eraill, neu efallai hyd yn oed fod canser yn newid ffurf mewn rhyw ffordd pan mae’n croesi ffin, ond, wrth gwrs, mae’r argymhelliad hefyd wedi cael ei gymeradwyo gan Ymchwil Canser fel rhywbeth a fyddai yn benodol o werth i Gymru hefyd. Yr un ydy anghenion iechyd pobl. Yr un ydy pwysigrwydd diagnosis cynnar.
Mae rhestrau aros diagnostig yn fwy yma na dros y ffin. Mae unrhyw ddehongliad rhesymol o ddata, rwy’n meddwl, yn dangos hynny. Ac hefyd oherwydd canllawiau newydd gan NICE, sydd yn berthnasol i Gymru, mae’n mynd i fod yn haws i feddygon teulu gyfeirio pobl i gael eu profi. Felly, mae cynnydd mewn capasiti, rwy’n meddwl, yn mynd i fod yn angenrheidiol.
Rydym ni wedi gweld gwelliant mewn amseroedd aros diagnostig ar gyfer radioleg yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac yn amlwg rydym yn dymuno gweld hynny yn parhau. Ond nid yw’r ffigurau yn well nag oedden nhw yn ôl ym mis Hydref 2009, er enghraifft, felly rydym yn dal yn ceisio dod dros y cyfnod yna rhwng 2011 a 2014 pan aeth amseroedd aros drwy y to.
Mae’n waeth byth pan mae’n dod i ddiagnosis endosgopi, sy’n hanfodol, wrth gwrs, efo canser y perfedd. Yma, mae’r amser aros canolrifol wedi mynd o ychydig dros dair wythnos yn 2009 i ychydig o dan chwech wythnos ar gyfer y rhan fwyaf o’r flwyddyn yma. Nid ydym wedi gweld unrhyw welliant go iawn ers 2014, a chofiwch mai’r canolrif ydy hyn, sy’n golygu bod hanner y bobl yn disgwyl hyd yn oed yn hirach na hyn. Felly, rydych chi yn gallu gweld yr heriau sy’n ein wynebu ni i weithredu targed o 28 diwrnod ar gyfer diagnosis i 95 y cant o bobl.
Mae’r Gweinidog, rwy’n meddwl, wedi honni o’r blaen fod y targed, i raddau, yn cael ei gyrraedd mewn gwirionedd, ond rhywsut nad yw’n cael ei gofnodi. Y cyfan ddywedaf i am hynny ydy mae’n siŵr ei bod hi’n rhwystredig iawn iddo fo fod yr holl dargedau mae ei Lywodraeth o yn eu cyrraedd ddim yn cael eu cofnodi a’u cyhoeddi, pan fydd gymaint o’r targedau sydd yn cael eu cofnodi yn dangos methiant. Gallai rhai pobl gasglu o hynny fod pethau ddim yn mynd cystal ag y byddai’r Gweinidog yn dymuno eu gweld.
Ond gadewch i ni ganolbwyntio ar rywbeth arall mae’r Gweinidog wedi ei ddweud yn hollol gywir droeon: mae eisiau i ni edrych a chanolbwyntio ar ganlyniadau. Rwy’n cytuno 100 y cant efo hynny. Felly, gadewch i ni bwysleisio’r pwysigrwydd yma o gael diagnosis cynharach, a beth mae hynny yn ei olygu i ganlyniadau. Mae ffigurau diweddar yn dangos bod 93.2 y cant o gleifion a gafodd ddiagnosis yn y cyfnod cynharaf o ganser y perfedd wedi goroesi am bum mlynedd, o’i gymharu â dim ond 6.6 y cant o’r rhai lle roedd y clefyd wedi datblygu ymhellach. Ar gyfer canser yr iau, mi fydd rhwng 50 y cant a 70 y cant o gleifion cyfnod A yn goroesi am bum mlynedd efo triniaeth, o’i gymharu ag amser goroesi canolrif o rhwng chwech ac 11 mis ar gyfer y rhai yng nghyfnod C. Mae mwy na 90 y cant o ferched sy’n cael diagnosis o ganser y fron yn y cyfnod cynharaf yn goroesi’r clefyd am o leiaf pum mlynedd, o’i gymharu â rhyw 15 y cant o ferched sy’n cael diagnosis yn y cyfnod mwyaf datblygedig o’r clefyd. Mae mwy na 90 y cant o ferched sy’n cael diagnosis o ganser yr ofari yn y cyfnod cynharaf yn goroesi am o leiaf pum mlynedd, o’i gymharu â rhyw 5 y cant o ferched sy’n cael diagnosis yn y cyfnod mwyaf datblygedig. Mae’r ffigurau yn drawiadol iawn. Rydym yn gwybod, wrth gwrs, ond mae’n werth weithiau i ni edrych ar y ffigurau moel fel hyn, i’n hatgoffa ni o bwysigrwydd gwneud y diagnosis yn gynnar.
Mae yna sôn yn aml am gymharu Cymru â Lloegr. Mae’n deg mewn ambell i gyd-destun, ddim yn deg mewn cyd-destunau eraill ond, wrth gwrs, dylem ni yng Nghymru a Lloegr efo’n gilydd fod yn edrych tuag at beth sy’n digwydd lle mae perfformio i’w weld ar ei orau. Ambell i enghraifft i chi: ffigurau goroesi canser y fron am bum mlynedd, 79.1 y cant yn Lloegr; 78 y cant yng Nghymru—digon tebyg; yn Sweden, y ffigur yn 86 y cant, a dyna ddylem fod yn anelu amdano fo. Yn Lloegr, 80 y cant o ddynion efo canser y prostad yn dal yn fyw bum mlynedd yn ddiweddarach; 90 y cant ydy’r ffigur yn Awstria; 78 y cant yng Nghymru. Canser y coluddyn, wedyn, mae ffigurau goroesi pum mlynedd yn Lloegr yn 51.3 y cant; ychydig o dan 50 y cant yng Nghymru; a’r Almaen yn taro dros 60 y cant—62.2 y cant—efo’r cyfartaledd Ewropeaidd yn 57 y cant. Felly, unwaith eto, anelu am y goreuon, achos mae pob un o’r bobl hyn yn y gwledydd eraill sy’n cael diagnosis cynnar yn bobl sy’n elwa yn yr hirdymor, ac mae’r graddfeydd goroesi yn dangos hynny i ni.
Mae yna sawl rheswm am ddiagnosis hwyr: amharodrwydd cleifion, yn aml iawn, i ymweld â meddyg teulu efo’r peswch parhaus yna neu’r lwmp sydd ddim yn diflannu, o bosib. Efallai bod y claf wedi gwrando ar gyngor y Llywodraeth i beidio ag ymweld â meddyg teulu oni bai bod rhaid. Mae yna lawer o resymau, wrth gwrs, pam fod pobl yn peidio mynd. Ond, mae amseroedd aros hir yn ffactor hefyd ac weithiau mae symptomau cymhleth angen profion cymhleth o’r math rydym wedi’u gweld yn cael eu harloesi mewn canolfannau amlddisgyblaethol yn Nenmarc, sy’n rhywbeth rydw i wedi cyfeirio ato fo sawl tro yn y fan hon. Unwaith eto, mae Ymchwil Canser yn cefnogi canolfannau amlddisgyblaethol fel hyn. Dyma chi un dyfyniad:
‘It’s clear that early diagnosis is crucial to improving survival in many cancer types. Some cancer types are more amenable to this, for example, breast and skin cancers that have specific symptoms. Particular challenges are present in cancers where symptoms are vague.’
Mae’n rhaid inni roi bob cyfle drwy ganolfannau diagnostig a thrwy ddefnyddio’r arian sydd wedi’i neilltuo drwy’r gyllideb, yn dilyn y trafodaethau efo Plaid Cymru, i sicrhau bod y targed hollbwysig yma’n un o’r prif flaenoriaethau wrth inni dargedu arian prin, ond arian sydd yna ar gyfer sicrhau iechyd pobl Cymru yn y dyfodol.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn nodi:
a) y pwyslais ar ganfod canser yn gynt fel y'i nodwyd yn y cynllun diwygiedig Cynllun Cyflawni Canser ar gyfer Cymru (2016-2020);
b) bod mwy o bobl nag erioed yn cael eu trin am ganser yng Nghymru a bod y cyfraddau goroesi yn uwch nag erioed o'r blaen; ac
c) y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y buddsoddiad ychwanegol mewn cyfarpar diagnostig a nodwyd yn y gyllideb ddrafft yn cael ei ddefnyddio i wella amseroedd aros a chanlyniadau triniaethau canser.
Yn ffurfiol, Gadeirydd.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Angela Burns i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Gwelliant 2—Paul Davies
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella mynediad at wasanaethau sgrinio ledled Cymru gyfan drwy gydnabod y rôl y mae gwasanaeth cenedlaethol symudol trin canser yn ei chwarae o ran cefnogi'r rhai sydd â chanser, ynghyd â lleihau atgyfeiriadau i ofal eilaidd drwy wneud mwy o ddefnydd o dechnoleg ddiagnostig mewn meddygfeydd.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn wneud hynny. Rwy’n ddiolchgar iawn i Blaid Cymru am gyflwyno’r cynnig hwn, er y byddwn yn dweud wrth Rhun ap Iorwerth na ddylai fod mor sensitif am gael tynnu ei goes am ddibynnu mor drwm ar arolwg o Loegr, ag yntau fel arfer yn osgoi pob peth Seisnig. Yn wir, mae Plaid Cymru wedi fy ngheryddu cymaint o weithiau am ddefnyddio data o Loegr mewn perthynas â’r GIG.
Credaf fod cael targed ar gyfer cael diagnosis o fewn 28 diwrnod yn nod canmoladwy iawn, ac rwy’n credu ei fod hefyd yn nod trugarog iawn, gan na allaf feddwl am lawer a allai fod yn fwy brawychus na meddyg teulu yn dweud wrthych fod angen i chi fynd i gael profion am eu bod yn amau bod gennych ganser. Rwy’n gwybod o straeon etholwyr, maent yn dweud wrthyf ei fod yn eu difa—yr aros. A pho hiraf sy’n rhaid iddynt aros, y mwyaf pryderus y maent hwy a’u teuluoedd yn mynd i fod. Rwy’n meddwl bod gallu ateb ofnau pobl a naill ai dweud wrthynt am y frwydr sy’n rhaid iddynt ei hymladd neu eu rhyddhau a gadael iddynt ddychwelyd at eu bywydau arferol yn hynod o bwysig. Ac mae unrhyw beth a phopeth y gallwn ei wneud i leihau’r amser diagnosis hwnnw i’w groesawu’n fawr iawn.
Rwyf wedi nodi gwelliannau’r Llywodraeth ac rwy’n falch o weld, Ysgrifennydd y Cabinet, fod mwy o bwyslais ar ganfod yn gynnar, fel y nodir yn y cynllun cyflawni canser. Rwy’n cytuno’n llwyr â hynny, ond rhaid i mi ddweud, ar y cyfan, rydych yn gwneud cam â chleifion canser ledled Cymru. Daeth ymchwil annibynnol gan Brifysgol Bryste i’r casgliad fod cleifion yn Lloegr saith gwaith yn fwy tebygol o gael mynediad at gyffuriau canser modern na’u cymheiriaid yng Nghymru; fod cynnydd o 6.1 y cant i gyd wedi bod yng Nghymru yn y nifer sy’n aros am ofal canser brys. Felly, mae’n bwysig iawn gallu canfod yn gynnar, ond mae eich pwynt (b) yn mynd ymlaen i ddweud bod,
‘mwy o bobl nag erioed yn cael eu trin am ganser yng Nghymru a bod y cyfraddau goroesi yn uwch nag erioed o’r blaen’.
Rwy’n croesawu hynny. Rwy’n credu bod hynny’n hollol wych, ond unwaith eto, mae’n rhaid i ni edrych ar y ffaith mai 83.3 y cant yn unig o bobl a ddylai fod wedi dechrau ar eu triniaeth canser o fewn 62 o ddiwrnodau sy’n gallu gwneud hynny mewn gwirionedd, ac nid oes yr un o fyrddau iechyd Cymru yn cyrraedd y targed hwn ar sail unigol. Felly mae yna fwlch mawr rhwng rhethreg eich gwelliannau a’u cyflawniad allan yno ar lawr gwlad.
Rydym wedi cyflwyno gwelliant sy’n sôn am wella mynediad at wasanaethau sgrinio ar draws Cymru gyfan. Hoffem gydnabod y rôl y mae’r gwasanaeth trin canser symudol cenedlaethol yn ei chwarae yn cefnogi pobl sydd â chanser. Rydym yn credu ein bod mor bell y tu ôl yn rhan gyntaf y cynnig hwn fel y gallem symud ymlaen o ddifrif drwy ddefnyddio llawer iawn mwy ar ganolfannau triniaeth diagnostig symudol ar gyfer canser. Mae 20.8 y cant o bobl ledled Cymru yn aros mwy nag wyth wythnos. Yn Lloegr nid yw ond yn 1.5 y cant. Mae gennym fwy o achosion newydd o ganser ac mae nifer yr achosion yn parhau i godi mewn dynion a menywod. Pan feddyliwch fod modd atal pedwar o bob 10 achos o ganser, lle y gallai diagnosteg dda wneud gwahaniaeth mor enfawr, yna rydym o ddifrif eisiau pwysleisio’r pwynt y gallai gwasanaeth trin canser symudol cenedlaethol wneud y byd o wahaniaeth.
Cyhoeddasom yn etholiadau’r Cynulliad 2016 y byddem yn sefydlu yn union hynny i atal teithiau hir i gleifion sy’n mynd i glinigau ac yn cael triniaeth cemotherapi. Rydym hefyd wedi ymrwymo i leihau atgyfeiriadau i ofal eilaidd drwy wneud llawer mwy o ddefnydd o dechnoleg ddiagnostig mewn meddygfeydd meddygon teulu. Mae’n ddiddorol iawn, oherwydd euthum i grŵp clwstwr ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, ac mae ganddynt beiriant prawf diagnostig adwaith critigol, a dyna un o’r allweddi a fydd yn dweud wrthych yn eich gwaed mewn gwirionedd pa un a oes rhywbeth yn digwydd a allai arwain at naill ai canser neu sepsis. Mae’n beth prin iawn i glinig meddyg teulu ddod â pheiriant felly i mewn a defnyddio hwnnw, ond drwy allu gwneud hynny maent yn chwarae eu rhan yn helpu i symud y diagnosis cynnar hwn yn ei flaen.
Mae llawer iawn o bethau y gallwn ei wneud i helpu meddygon teulu i wneud llawer mwy o sgrinio ar eu lefel hwy, a symud yr atgyfeiriadau hyn drwodd i’r ysbytai wedyn. Mae clinigau symudol yn gwbl hanfodol, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru, lle y mae mor hynod o anodd i bobl deithio yn ôl ac ymlaen. Hoffem edrych ar syniadau fel cael cemegwyr sy’n gallu gwneud profion gwaed—unwaith eto, profion gwaed a all nodi’r marcwyr canser, i allu symud ymlaen. Mae pob un o’r pethau hyn yn helpu i gyflymu’r system, a dyna beth sydd angen i ni ei wneud i allu symud hyn yn ei flaen. Os ydym eisiau gallu ceisio cyrraedd y targed hwnnw o 28 diwrnod, rhywbeth y credaf y byddai’n gwbl hanfodol ar gyfer lles meddyliol rhywun a allai fod yn dioddef o ganser, yna mae angen i ni edrych ar y sbectrwm eang cyfan, a byddai gennyf ddiddordeb mawr yn eich barn ar rai o’r syniadau hynny, Ysgrifennydd y Cabinet.
Rwy’n falch o allu siarad yn y ddadl hon. Ddoe gallais ofyn i’r Prif Weinidog am y cynnydd y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ei wneud o ran gwella cyfraddau goroesi ar gyfer canser, ac fel y dywedais wrth y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, cafodd yr Aelod dros Gwm Cynon, Vikki Howells, a minnau y fraint o ymweld â labordai Ymchwil Canser Cymru, lle roeddem yn gallu gweld y gwaith cyffrous ac arloesol sy’n digwydd heddiw i gynyddu dealltwriaeth wyddonol o sut y mae canser yn ymosod ar y system imiwnedd.
Mae Ymchwil Canser Cymru yn enghraifft wirioneddol gyffrous o’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud yng Nghymru. Maent yn codi dros £1 filiwn y flwyddyn ac yn cyfrannu at ymchwil canser yn y nifer o ysbytai yng Nghymru ac adrannau prifysgol ledled Cymru. Fel y nodwyd, croesawaf gynllun cyflawni canser uchelgeisiol Llywodraeth Llafur Cymru sydd newydd gael ei lansio ar ei newydd wedd. Gall pob un ohonom gymeradwyo’r ffaith fod boddhad cleifion yn parhau i fod yn gadarnhaol. Yn wir, mae buddsoddi mewn gwariant ar wasanaethau canser wedi codi o £347 miliwn yn 2011-12 i £409 miliwn yn 2014-15. Fel y dywedodd y Prif Weinidog wrthyf ddoe pan ofynnais pa offer y gallai Llywodraeth Lafur Cymru eu rhoi i wyddonwyr ac ymchwilwyr dawnus yn Ymchwil Canser Cymru, dywedodd, rydym yn buddsoddi £4.5 miliwn o gyllid dros dair blynedd yn y Ganolfan Ymchwil Canser newydd ar gyfer Cymru, a lansiwyd ym mis Hydref y llynedd. Yn ogystal, buddsoddir £4.7 miliwn yn fras bob blwyddyn i gefnogi recriwtio cleifion i dreialon neu astudiaethau a chefnogi gweithgaredd ymchwil y bwrdd iechyd.
Yn wir, mae’r gronfa cyflawni canser ddiwygiedig yn ymrwymo i wella cyfraddau goroesi ar gyfer canser, lleihau nifer y marwolaethau cynnar a achosir gan y clefyd, cau’r bwlch gyda’r darparwyr gofal canser gorau yn Ewrop, ac mae’r cynllun hefyd yn ymdrin â’r cyfnod hyd at 2020 er mwyn sicrhau parhad sy’n bwysig iawn i’r gwasanaeth iechyd.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gosod targedau uchelgeisiol yn y maes hwn ar gyfer Cymru. Bydd o leiaf 95 y cant o gleifion a gafodd ddiagnosis o ganser drwy’r llwybr amheuaeth o ganser brys yn dechrau triniaeth benodol o fewn 62 diwrnod i gael eu hatgyfeirio. Yn wir, mae gan Gymru dargedau llymach na Lloegr—95 y cant, o’i gymharu â 85 y cant ar hyn. Bydd o leiaf 98 y cant o’r cleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser, nid drwy’r llwybr brys, yn dechrau triniaeth benodol o fewn 31 diwrnod i gael diagnosis, beth bynnag fo’r llwybr atgyfeirio. Mae’r targedau hyn yn adlewyrchu cyngor gan glinigwyr arbenigol, cleifion a’r trydydd sector na ddylai cleifion aros mwy na 62 diwrnod o’r adeg y ceir amheuaeth o ganser gyntaf i ddechrau’r driniaeth.
Ni fyddai targed diagnosis 28 diwrnod y mae’r Llywodraeth Dorïaidd wedi’i gyhoeddi fel y targed i’w gyrraedd yn Lloegr erbyn 2020, ynddo’i hun yn gwarantu mynediad cyflymach at driniaeth canser. Mae’r llwybr cyfan yn bwysig i bobl a atgyfeiriwyd lle y ceir amheuaeth o ganser, nid y 28 diwrnod cyntaf yn unig. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi dweud ei bod yn gwrthwynebu unrhyw syniad a fyddai’n arwain o bosibl at gleifion yn cael diagnosis anghywir neu ddim yn cael diagnosis o gwbl er mwyn cyrraedd targed newydd neu unrhyw gynnig a fyddai’n ymestyn yr amser y mae cleifion yn aros i ddechrau triniaeth. Dylid cydnabod bod gennym wasanaeth a system iechyd wahanol yng Nghymru, sy’n seiliedig ar gydweithio ac integreiddio gofal sylfaenol ac eilaidd. Felly, na foed unrhyw amheuaeth: er mwyn i ni i gyflawni ein hamcanion, mae’n rhaid i ni fuddsoddi, a hefyd na foed unrhyw amheuaeth fod y Blaid Lafur, a greodd y gwasanaeth iechyd gwladol, y llwyddiant mwyaf a gafwyd gan unrhyw Lywodraeth yn y Deyrnas Unedig ar adeg o heddwch, yma yng Nghymru yn parhau i sicrhau bod y gwasanaeth iechyd gwladol yma yn cael ei ariannu ac yn addas i’w ddefnyddio yn yr unfed ganrif ar hugain.
Mae buddsoddiad gan Lywodraeth Lafur Cymru wedi golygu bod gwariant ar wasanaethau canser yn parhau i godi. Gwariant ar ganser bellach yw bron i 7 y cant o holl wariant y GIG yng Nghymru—y pedwerydd maes gwariant mwyaf. Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn buddsoddi £16.9 miliwn mewn offer diagnostig, fel sganwyr MRI a CT yn 2016-17. Ni ellir cael gwell tystiolaeth o ymrwymiad ein plaid a’n Llywodraeth na sicrhau ein bod yn parhau i fynd i’r afael â malltod canser, na’r ganolfan ganser newydd yn Felindre sy’n werth £200 miliwn, gyda £15 miliwn wedi’i ddyrannu yn y gyllideb ddrafft, ar yr adeg hon, ar gyfer gwella diagnosteg. Mae cyfeiriad y cynnydd a’r daith sy’n cael ei gwneud yn dda, a dyna pam y byddaf yn pleidleisio yn erbyn y cynnig a gyflwynwyd ac yn cefnogi gwelliannau’r Llywodraeth. Diolch.
Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl hon heddiw. Mae cynllun cyflawni canser Llywodraeth Cymru ar ei newydd wedd yn amlinellu maint y broblem sy’n ein hwynebu. Mae gofal canser wedi gwella’n sylweddol dros y blynyddoedd ac o ganlyniad, mae mwy a mwy o bobl yn goroesi canser. Fodd bynnag, rydym yn methu’n wael o ran diagnosis cynnar ac yma y mae rhai o’r cyfraddau goroesi gwaethaf ar ôl pum mlynedd yn y byd datblygedig. Yn y pen draw bydd un o bob dau ohonom yn datblygu canser ar ryw adeg yn ein bywydau ac fel y mae Dr Crosby yn ysgrifennu yn y cyflwyniad i’r cynllun cyflawni canser,
‘Mae cael diagnosis o ganser yn gynnar yn ei gwneud yn bosibl cael cyfuniad o driniaethau llai ymosodol a llai costus, gwell profiad ac ansawdd bywyd gwell i’r claf, ac yn hollbwysig goroesi’n hirach.’
Mae’n rhaid i ni wneud yn well. Rhaid i ni ddysgu o brofiadau mewn mannau eraill, ac rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru yn derbyn nad ydym yn perfformio’n dda o ran diagnosis cynnar a’u bod yn barod i edrych ar sut y caiff pethau eu gwneud ar draws y byd. Mae ymweliad y grŵp gweithredu canser â Denmarc wedi arwain at ailwampio trefniadau atgyfeirio canser meddygon teulu a threialu canolfannau diagnostig. Mae cynnig Plaid Cymru yn cyfeirio at y gwaith a wnaed i ddatblygu’r cynllun cyflawni canser yn Lloegr, a byddai UKIP yn hapus i gefnogi ymdrech Cymru i fabwysiadu’r targedau canser a nodwyd yn yr adroddiad gan y tasglu canser annibynnol.
Mae’r GIG yn Lloegr wedi gwneud gwelliannau enfawr yn eu cyfraddau goroesi ar ôl pum mlynedd a byddai’n werth i ni ddysgu o’r cyflawniadau hyn.
A wnewch chi dderbyn ymyriad ar hynny?
Gwnaf, yn sicr.
Diolch i’r Aelod am dderbyn ymyriad. A ydych yn rhannu’r pryderon sydd gennyf, felly, fod yr adroddiad heddiw gan Cancer Research UK yn tynnu sylw at yr anhrefn bosibl sy’n mynd i ddigwydd ym maes diagnosteg a phatholeg yn y GIG, oherwydd eu bod yn gweld y niferoedd yn cynyddu ond yr adran ei hun yn lleihau?
Diolch i chi, David. Mae’n mynd i fod yn anodd iawn dal i fyny â’r galw, gan fod un o bob dau ohonom yn mynd i gael canser, ond ni allwn ond gwneud ein gorau.
Byddem hefyd yn cefnogi awgrym y Ceidwadwyr Cymreig ynglŷn â gwasanaeth trin canser symudol, yn enwedig ar gyfer ardaloedd gwledig.
Nid oes un ateb sengl i gyflawni gwelliannau i ofal canser yng Nghymru ond mae llawer o gamau bach y gallwn eu cymryd. Mae’n rhaid i ni wella ymwybyddiaeth o symptomau, mynediad at feddyg teulu, gwella argaeledd diagnosteg mewn gofal sylfaenol, cyflymu’r broses atgyfeirio a sicrhau mynediad at y triniaethau diweddaraf. Os ydym yn raddol yn gwella pob dolen yn y gadwyn, yna gallwn ddarparu’r gofal canser gorau yn y byd a sicrhau bod mwy o bobl yn goroesi canser am fwy o amser. Mae’r cynllun cyflawni canser newydd yn ddechrau da; gadewch i ni sicrhau bod y ddarpariaeth yn cyfateb i’r uchelgais. Diolch. Diolch yn fawr.
‘Canser yw e’—yn ôl pob tebyg rhai o’r geiriau mwyaf brawychus y bydd pobl yn eu clywed pan fyddant yn ymweld â’u meddyg ymgynghorol neu eu meddyg teulu ar ôl cynnal archwiliadau. Ar ôl clywed y geiriau hynny, mae cleifion yn wynebu cyfnod heriol. Mae’n bwysig ein bod yn gwneud cymaint ag y gallwn i dawelu eu meddyliau a’u sicrhau y bydd strwythur i’r gofal y byddant yn ei gael, a chynllun wedi’i gytuno, ac y bydd o’r ansawdd gorau. Ond rhaid i ni hefyd dawelu ein meddyliau ein hunain fod y gofal a gânt hyd at y pwynt hwnnw’n cyrraedd yr un safonau uchel.
Mae’r ddadl heddiw’n ymwneud â phwysigrwydd gofal cynnar a chynnal yr archwiliadau cyn gynted ag y bo modd er mwyn gallu rhoi’r neges i gleifion nad ydynt yn dioddef o ganser, gan gael gwared ar y pryder enfawr a’r baich y maent wedi bod yn ei gario dros y cyfnod hwnnw, neu’r neges fod ganddynt gyflwr sy’n galw am driniaeth frys.
Mae’r ystadegau’n awgrymu y bydd cynifer ag un o bob tri—efallai ei fod i lawr i un o bob dau bellach—yn datblygu canser yn ystod eu hoes. Wrth edrych o gwmpas yr ystafell hon, mae hynny’n golygu efallai y bydd 10 a mwy ohonom yn cael y neges honno yn y blynyddoedd i ddod. Mae’n fater sy’n effeithio ar deuluoedd a chymunedau ledled Cymru ac mae’n debygol iawn fod llawer yn y Siambr hon wedi cael profiadau personol o aelodau o’r teulu neu ffrindiau da iawn a glywodd y geiriau hynny ac sydd wedi teithio drwy’r broses ddiagnostig, ac a fyddai’n gallu sôn am rai o’u profiadau yn uniongyrchol o’r hyn a wyddom.
Rwyf hefyd wedi cyfarfod ag etholwyr, fel y mae llawer ohonoch, sydd wedi lleisio pryderon am yr oedi y maent wedi’i brofi yn y broses ddiagnostig. Er gwaethaf y cynnydd parhaus tuag at gyrraedd y targed—ac mae yna gynnydd—mae’n bwysig cydnabod bod pobl yn dal i orfod aros ac nid oes gennyf unrhyw fwriad i gladdu fy mhen yn y tywod ar y mater hwn. Ond mae hefyd yn bwysig pwysleisio fod etholwyr yn cysylltu â mi i ddweud wrthyf faint o ganmoliaeth y maent wedi ei roi i’r GIG yng Nghymru am y driniaeth gyflym a gawsant a’r gofal rhagorol a ddarperir gan staff ymroddgar ac ymrwymedig y GIG yma yng Nghymru.
Mae’n newyddion da fod y cyfraddau goroesi canser yng Nghymru yn parhau i gynyddu o flwyddyn i flwyddyn, ac rwy’n siŵr y bydd yr ystadegau’n cael eu hailadrodd eto. Fodd bynnag, o ran diagnosteg, ar ddiwedd mis Medi 2016, roedd 11,000 o bobl yn aros dros wyth wythnos am brofion diagnostig penodol ac endosgopïau. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siŵr y byddech yn cytuno bod hyn yn 11,000 yn ormod, er fy mod yn derbyn nad oedd amheuaeth o ganser yn achos pob un o’r rhain a bod y ffigur 36 y cant yn is nag yn 2015.
Rydym i gyd am roi diwedd ar amseroedd aros hir ym mhob rhan o’n GIG yng Nghymru, gan gynnwys gofal canser. Adlewyrchwyd yr uchelgais hwn yn y cynllun cyflawni canser diwygiedig a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Islwyn, wedi pwysleisio’r agweddau cadarnhaol ar y cynllun hwnnw eisoes y prynhawn yma. Mae’n canolbwyntio ar ganfod canser yn gynnar drwy well mynediad at ddiagnosteg. Croesawaf y cyhoeddiad diweddar ynghylch buddsoddiad o £6 miliwn yn y ganolfan yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant—maent yn cael sganiwr CT newydd yn lle hen un, ac ail sganiwr CT newydd a sganwyr MRI yn yr ysbyty hwnnw—gan ddisgwyl darparu, a helpu i ddarparu mwy o sganiau MRI, dros 7,000, a mwy o sganiau CT, dros 6,500 y flwyddyn. Yn ddi-os, byddant yn gwella profion diagnostig ar draws de Cymru.
Mae ymrwymiad y Llywodraeth i wella targedau diagnostig canser, yn ogystal â thriniaeth i bobl sy’n dioddef o’r clefyd erchyll hwn, yn glir: nid mater o brofion diagnostig yn dilyn atgyfeiriad yn unig yw canfod canser yn gynharach. Mae’n rhaid i ni barhau hefyd â’r rhaglenni sgrinio cenedlaethol a gweithio’n galed i wella’r nifer sy’n cael eu sgrinio drwy wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o bwysigrwydd y rhaglenni sgrinio hyn. Mae hynny wedi bod yn un o’r problemau. Weithiau, nid yw nifer y rhai sy’n manteisio ar y rhaglenni wedi bod yn dda iawn. Yn 2015-16, mynychodd 77.8 y cant o’r menywod yn y grŵp oedran targed ar gyfer sgrinio canser ceg y groth o leiaf unwaith yn y pum mlynedd diwethaf. Mae’r ffigur hwn wedi bod yn gostwng yn araf dros y 10 mlynedd diwethaf, fodd bynnag. Mae angen i ni ei weld yn codi, nid yn gostwng. Gwelwyd cynnydd bach o 0.3 y cant yn y nifer sy’n manteisio ar wasanaeth sgrinio’r fron, ac mae 72.4 y cant o’r menywod yn y grŵp oedran targed yn cael eu sgrinio ar hyn o bryd.
Fodd bynnag, mae sgrinio coluddion yn wael iawn mewn gwirionedd. Maent wedi gweld gostyngiad yn nifer y bobl sy’n cael eu sgrinio, gyda dim ond 50.8 y cant yn defnyddio’r gwasanaeth sgrinio coluddion. Mae’n rhaid i ni wella’r ffigurau sgrinio hyn am eu bod yn ffordd o allu nodi pa bobl sydd angen gofal ar gam cynnar. A pham rydym yn helpu pobl? Amlygodd Rhun ap Iorwerth broblemau eraill a allai achosi pryderon, o ran oedi cyn mynd i weld meddyg teulu, ac un o’r rheini, o bosibl, yw dynion. Rydym yn ofnadwy am fynd at feddyg teulu. Nid ydym yn gwneud yr ymdrech. Rydym yn credu ein bod yn ddigon mawr ac nad oes gennym broblem. Mae angen i fwy ohonom gydnabod y ffaith y dylem fynd at feddyg teulu pan gredwn fod rhywbeth yn mynd o’i le. Ac rydym yn aml yn gwybod ei fod yn mynd o’i le, ond nid ydym eisiau cyfaddef hynny i ni ein hunain. Felly, mae’n rhaid i ni addysgu pobl yn well ynglŷn â dilyn y camau hunanymwybyddiaeth a’r prosesau sgrinio er mwyn i ni allu ei ganfod yn gynnar mewn gwirionedd.
Ddirprwy Lywydd, mae cynnydd yn cael ei wneud, ond mae llawer mwy i’w wneud o hyd, ac mae’n rhaid i ni i gyd weithio gyda’n gilydd i sicrhau mwy o lwyddiant.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n hapus i ymateb i ddadl heddiw, a dechrau drwy gydnabod y sylwadau a wnaed eisoes, y bydd diagnosis cynharach o ganser yn galluogi pobl i gael triniaeth lai difrifol a llai costus, ac yn arbennig, profiad gwell i gleifion, ond hefyd ansawdd bywyd a ddylai arwain at ganlyniadau gwell, sy’n hollbwysig. Ond nid wyf yn cytuno â goblygiad canolog y cynnig, sef mai’r amser targed ar gyfer diagnosis yw’r ffordd i fynd ati i wella lefelau canfod canser neu ganlyniadau o reidrwydd. Rwy’n derbyn bod targedau’n chwarae rhan mewn unrhyw system ofal iechyd, ond gallant greu ymddygiadau gwrthnysig mewn gwahanol rannau o’r gwasanaeth, gan gynnwys mewn llwybrau gofal canser cymhleth. Ac ar amseroedd aros i ddechrau triniaeth ganser, rydym yn parhau i wneud yn well na Lloegr, ond ein her yw sut i wneud yn well byth yn hytrach na dim ond cymharu ein hunain â system Lloegr. Ac rwy’n cydnabod yr hyn a ddywedwyd am argymhellion tasglu canser Lloegr y cyfeiriodd Plaid Cymru atynt yn eu cynnig. Nid ydynt yn berthnasol i Gymru, ac mae gennym system iechyd wahanol. Nid bod yn bedantig yw hyn; mae’n system sy’n cael ei darparu mewn ffordd wahanol ar sail gofal sylfaenol a gofal eilaidd integredig, a byrddau iechyd, ar fodel wedi’i gynllunio yn hytrach na’i gomisiynu, ar sail cydweithio nid dirwyon, targedau a thariffau.
Nawr, mae diagnosis cynharach yn brif ffocws y cynllun cyflawni canser diwygiedig a gyhoeddwyd ac a lansiwyd yn y pythefnos diwethaf. Gwyddom fod y Rhwydwaith Canser yn gweithio gyda gofal sylfaenol ar weithredu canllawiau atgyfeirio oherwydd amheuaeth o ganser y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, a bod hynny ynddo’i hun yn her go iawn i’r gwasanaeth cyfan. Mae’r rhwydwaith yn ystyried diwygio llwybrau diagnostig, gan ddysgu o’u hymweliad â Denmarc, ynglŷn â llwybrau atgyfeirio ychwanegol ar gyfer symptomau amwys. Rydym yn gwybod bod honno’n her sylweddol hefyd. A thrwy’r contract meddygon teulu, mae clystyrau’n dadansoddi’r gwersi a ddysgwyd o ymarfer atgyfeirio meddygon teulu. Ac mae rhaglen y fframwaith ar gyfer canser yn datblygu cymorth i feddygon teulu allu gwella diagnosis, atgyfeirio a chefnogaeth i bobl sydd wedi cael diagnosis hefyd.
Ar sgrinio, soniwyd bod mwy na 400,000 yn cael eu sgrinio fel mater o drefn yng Nghymru bob blwyddyn yn rhan o’n rhaglenni uchel eu parch ar gyfer sgrinio’r fron, sgrinio serfigol a sgrinio coluddion. Rydym eisoes wedi addasu’r broses sgrinio canser y fron yn helaeth, ac yn ddiweddar rydym wedi cytuno i weithredu profion gwell a mwy derbyniol ar gyfer canser ceg y groth a sgrinio am ganser y coluddyn. Ac mewn gwirionedd, dyna un o’r rhwystrau mawr i wella nifer y bobl sy’n mynychu ac yn cael prawf canser y coluddyn. Nawr, mae strategaeth gweithlu’r GIG, a byrddau’r rhaglen ddelweddu a phatholeg yn mynd i’r afael â phrinder gweithlu allweddol mewn patholeg a radioleg. Bydd cyflwyno systemau gwybodeg cenedlaethol yn integreiddio gofal yn well ar draws safleoedd a sefydliadau sydd â systemau patholeg a delweddu cyffredin.
Felly, nid oes unrhyw laesu dwylo ar ein rhan fod popeth yn berffaith yn ein system. Rydym yn parhau i herio, i ddiwygio ac i symud ymlaen gyda gwahanol agweddau ar ofal canser ledled Cymru. Ac rwy’n falch fod pwyntiau wedi’u gwneud ynglŷn ag amseroedd aros am ddiagnosis, ac yn arbennig y gydnabyddiaeth gan David Rees ein bod wedi gwella ein perfformiad mewn perthynas ag amseroedd aros diagnostig dros y flwyddyn ddiwethaf. Rwy’n disgwyl gweld mwy o welliant eto y tu hwnt i ddiwedd y flwyddyn berfformio hon, ac yn ddiweddar, cyhoeddais fuddsoddiad o £6 miliwn yn y ganolfan ddiagnostig yng Nghwm Taf. Rydym eisoes yn gwneud defnydd o rai gwasanaethau diagnostig symudol yn ogystal. Ond yn y dyfodol, byddwn yn buddsoddi’n drwm eto er mwyn darparu cyfarpar diagnostig newydd, gan gynnwys technegau delweddu CT, MRI a PET, yn ogystal â £15 miliwn pellach sydd wedi’i glustnodi ar gyfer offer diagnostig yn dilyn cytundeb y gyllideb ddrafft gyda Phlaid Cymru.
Mae gennym grŵp gweithredu endosgopi cenedlaethol sy’n gweithio i leihau amseroedd aros a gwella ansawdd, ac yn ddiweddar cyhoeddais £3 miliwn ychwanegol mewn gwariant cyfalaf ar offer diheintio ar gyfer yr unedau hyn. Ac rwy’n falch ar y pwynt hwn i gydnabod y pwyntiau a wnaed gan Rhianon Passmore am y buddsoddiad rydym eisoes yn ei wneud, ac yn parhau i wneud, ar sail gynyddol, mewn gwasanaethau canser, a’n cefnogaeth i ganolfan ganser newydd Felindre sy’n werth £200 miliwn. Nawr, rwy’n deall y teimlad a’r egni sy’n sail i’r cynnig, a’r argymhelliad y mae’n ei wneud, ond yn syml iawn, nid wyf yn cytuno bod targed mympwyol o 28 diwrnod yn gyfraniad ystyrlon. Nid wyf yn credu mai dyna’r ffordd iawn i fanteisio ar amser, egni ac ymdrech pobl yn y gwasanaeth er mwyn iddynt wneud y cyfraniad gorau i wella canlyniadau i gleifion canser mewn gwirionedd, gan y bydd y rhan fwyaf o gleifion ar lwybr 62 diwrnod eisoes wedi cael diagnosis penodol erbyn hynny, ond gall fod yn anodd gwneud diagnosis a chanfod difrifoldeb rhai canserau’r ysgyfaint a chanserau’r oesoffagws o fewn y 28 diwrnod. Nid wyf yn credu ei bod yn ddefnyddiol ceisio rhannu’r llwybr, yn hytrach na chael cymorth i gael diagnosis pendant a dechrau triniaeth bendant mewn gwirionedd. Rwy’n credu bod angen i ni roi amser i’n timau clinigol ddehongli a defnyddio’r diagnosis i gytuno ac yna i ddechrau ar gynllun triniaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o fewn 62 diwrnod.
Rwy’n hapus iawn i gyfeirio’n ôl at y ffaith fod cyfraddau goroesi ar ôl blwyddyn ac ar ôl pum mlynedd yn uwch nag erioed. Maent yn parhau i wella, mae lefelau marwolaeth gynamserol yn parhau i ostwng, a phrofiad y claf yn eithriadol o uchel. Nid yw hyn yn golygu ein bod yn hunanfodlon ynglŷn â ble rydym a ble rydym eisiau bod. Ac ar ddiagnosteg, fel y dywedodd Tom Crosby, cyfarwyddwr meddygol rhwydwaith canser Cymru,
Rhaid i ni fwrw iddi’n ddidrugaredd i sicrhau diagnosis cynharach.
Nid oes unrhyw awgrym nad ydym yn credu bod diagnosis yn bwysig. Ond yng Nghymru, credaf fod gennym ddull cadarn o weithredu a chynllun ar waith i wneud hynny eisoes, ac mae’r cynllun hwn yn cael ei groesawu gan glinigwyr a’r trydydd sector. Os hoffech, ysgrifennwyd y cynllun cyflawni canser blaenorol ar gyfer y gwasanaeth a’i roi iddynt i fwrw ati i’w gyflawni, ac fe’i croesawyd ar y pryd. Ond mae’r cynllun cyflawni canser newydd wedi cael ei ysgrifennu gyda’r gwasanaeth a chyda’r trydydd sector, ac rydym yn gweithio ar sail y dystiolaeth a gasglwyd gennym ar y peth iawn i’w wneud i wella’r hyn rydym eisoes yn ei wneud yng Nghymru. Mae yna gefnogaeth eang i’r cynllun, ac mae’n rhannu uchelgais i wella canlyniadau yn barhaus. Ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’n gilydd gyda’r gwasanaeth, y trydydd sector ehangach a’r cyhoedd i wneud hynny.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i’r ddadl yn fyr iawn.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cyflwynasom y cynnig hwn i roi cyfle i’r Llywodraeth gyd-fynd â barn glinigol, a defnyddio’r buddsoddiad ychwanegol mewn capasiti diagnostig i flaenoriaethu’r nod o gyflawni’r targed diagnostig o 28 diwrnod, targed nad wyf wedi ei ddewis yn fympwyol; daeth oddi wrth y bobl sy’n gwybod rhywbeth am hyn. Gallai hyn glirio’r dagfa yn y system ac arwain at driniaeth gyflymach. Rwy’n gresynu na fydd y Llywodraeth yn manteisio ar y cyfle hwn. Ymddengys eu bod yn awgrymu mai amser y driniaeth sydd bwysicaf. Wel, wrth gwrs, mae amser y driniaeth a’r amserlen yn bwysig, ond po gyntaf y ceir diagnosis, y cynharaf y gallwch ddechrau triniaeth a pho gynharaf y gallwch ddechrau triniaeth, y gorau yw gobaith y claf o oroesi. Felly, yn amlwg ni fyddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth.
Ni allwn gefnogi gwelliant 2 gan y Ceidwadwyr ychwaith, oherwydd mae’n dileu ein galwad am ganolbwyntio gwariant diagnostig yn y maes penodol hwn. Ydy, mae sgrinio’n bwysig tu hwnt. Pe bai fy mam wedi cael ei sgrinio, byddai’n dal yn fyw heddiw. Bu farw am ei bod wedi canfod yn rhy hwyr fod ganddi ganser. Ond mae’n dileu’r rhan allweddol honno o’n cynnig heddiw. Cefnogwch y cynnig. Mae arbenigwyr, nid yn unig yng Nghymru ond ymhellach i ffwrdd, wedi dweud y dylem anelu at 28 diwrnod. Ni allaf yn fy myw weld pam na fyddem am osod hynny fel uchelgais.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, byddwn yn gohirio’r pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cytunwyd y bydd y cyfnod pleidleisio’n digwydd cyn y ddadl fer, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i’r gloch gael ei chanu, symudaf ymlaen yn syth at y cyfnod pleidleisio. Iawn, diolch.