Part of the debate – Senedd Cymru am 5:49 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Diolch i’r Aelod am dderbyn ymyriad. A ydych yn rhannu’r pryderon sydd gennyf, felly, fod yr adroddiad heddiw gan Cancer Research UK yn tynnu sylw at yr anhrefn bosibl sy’n mynd i ddigwydd ym maes diagnosteg a phatholeg yn y GIG, oherwydd eu bod yn gweld y niferoedd yn cynyddu ond yr adran ei hun yn lleihau?