Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 23 Tachwedd 2016.
‘Canser yw e’—yn ôl pob tebyg rhai o’r geiriau mwyaf brawychus y bydd pobl yn eu clywed pan fyddant yn ymweld â’u meddyg ymgynghorol neu eu meddyg teulu ar ôl cynnal archwiliadau. Ar ôl clywed y geiriau hynny, mae cleifion yn wynebu cyfnod heriol. Mae’n bwysig ein bod yn gwneud cymaint ag y gallwn i dawelu eu meddyliau a’u sicrhau y bydd strwythur i’r gofal y byddant yn ei gael, a chynllun wedi’i gytuno, ac y bydd o’r ansawdd gorau. Ond rhaid i ni hefyd dawelu ein meddyliau ein hunain fod y gofal a gânt hyd at y pwynt hwnnw’n cyrraedd yr un safonau uchel.
Mae’r ddadl heddiw’n ymwneud â phwysigrwydd gofal cynnar a chynnal yr archwiliadau cyn gynted ag y bo modd er mwyn gallu rhoi’r neges i gleifion nad ydynt yn dioddef o ganser, gan gael gwared ar y pryder enfawr a’r baich y maent wedi bod yn ei gario dros y cyfnod hwnnw, neu’r neges fod ganddynt gyflwr sy’n galw am driniaeth frys.
Mae’r ystadegau’n awgrymu y bydd cynifer ag un o bob tri—efallai ei fod i lawr i un o bob dau bellach—yn datblygu canser yn ystod eu hoes. Wrth edrych o gwmpas yr ystafell hon, mae hynny’n golygu efallai y bydd 10 a mwy ohonom yn cael y neges honno yn y blynyddoedd i ddod. Mae’n fater sy’n effeithio ar deuluoedd a chymunedau ledled Cymru ac mae’n debygol iawn fod llawer yn y Siambr hon wedi cael profiadau personol o aelodau o’r teulu neu ffrindiau da iawn a glywodd y geiriau hynny ac sydd wedi teithio drwy’r broses ddiagnostig, ac a fyddai’n gallu sôn am rai o’u profiadau yn uniongyrchol o’r hyn a wyddom.
Rwyf hefyd wedi cyfarfod ag etholwyr, fel y mae llawer ohonoch, sydd wedi lleisio pryderon am yr oedi y maent wedi’i brofi yn y broses ddiagnostig. Er gwaethaf y cynnydd parhaus tuag at gyrraedd y targed—ac mae yna gynnydd—mae’n bwysig cydnabod bod pobl yn dal i orfod aros ac nid oes gennyf unrhyw fwriad i gladdu fy mhen yn y tywod ar y mater hwn. Ond mae hefyd yn bwysig pwysleisio fod etholwyr yn cysylltu â mi i ddweud wrthyf faint o ganmoliaeth y maent wedi ei roi i’r GIG yng Nghymru am y driniaeth gyflym a gawsant a’r gofal rhagorol a ddarperir gan staff ymroddgar ac ymrwymedig y GIG yma yng Nghymru.
Mae’n newyddion da fod y cyfraddau goroesi canser yng Nghymru yn parhau i gynyddu o flwyddyn i flwyddyn, ac rwy’n siŵr y bydd yr ystadegau’n cael eu hailadrodd eto. Fodd bynnag, o ran diagnosteg, ar ddiwedd mis Medi 2016, roedd 11,000 o bobl yn aros dros wyth wythnos am brofion diagnostig penodol ac endosgopïau. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siŵr y byddech yn cytuno bod hyn yn 11,000 yn ormod, er fy mod yn derbyn nad oedd amheuaeth o ganser yn achos pob un o’r rhain a bod y ffigur 36 y cant yn is nag yn 2015.
Rydym i gyd am roi diwedd ar amseroedd aros hir ym mhob rhan o’n GIG yng Nghymru, gan gynnwys gofal canser. Adlewyrchwyd yr uchelgais hwn yn y cynllun cyflawni canser diwygiedig a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Islwyn, wedi pwysleisio’r agweddau cadarnhaol ar y cynllun hwnnw eisoes y prynhawn yma. Mae’n canolbwyntio ar ganfod canser yn gynnar drwy well mynediad at ddiagnosteg. Croesawaf y cyhoeddiad diweddar ynghylch buddsoddiad o £6 miliwn yn y ganolfan yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant—maent yn cael sganiwr CT newydd yn lle hen un, ac ail sganiwr CT newydd a sganwyr MRI yn yr ysbyty hwnnw—gan ddisgwyl darparu, a helpu i ddarparu mwy o sganiau MRI, dros 7,000, a mwy o sganiau CT, dros 6,500 y flwyddyn. Yn ddi-os, byddant yn gwella profion diagnostig ar draws de Cymru.
Mae ymrwymiad y Llywodraeth i wella targedau diagnostig canser, yn ogystal â thriniaeth i bobl sy’n dioddef o’r clefyd erchyll hwn, yn glir: nid mater o brofion diagnostig yn dilyn atgyfeiriad yn unig yw canfod canser yn gynharach. Mae’n rhaid i ni barhau hefyd â’r rhaglenni sgrinio cenedlaethol a gweithio’n galed i wella’r nifer sy’n cael eu sgrinio drwy wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o bwysigrwydd y rhaglenni sgrinio hyn. Mae hynny wedi bod yn un o’r problemau. Weithiau, nid yw nifer y rhai sy’n manteisio ar y rhaglenni wedi bod yn dda iawn. Yn 2015-16, mynychodd 77.8 y cant o’r menywod yn y grŵp oedran targed ar gyfer sgrinio canser ceg y groth o leiaf unwaith yn y pum mlynedd diwethaf. Mae’r ffigur hwn wedi bod yn gostwng yn araf dros y 10 mlynedd diwethaf, fodd bynnag. Mae angen i ni ei weld yn codi, nid yn gostwng. Gwelwyd cynnydd bach o 0.3 y cant yn y nifer sy’n manteisio ar wasanaeth sgrinio’r fron, ac mae 72.4 y cant o’r menywod yn y grŵp oedran targed yn cael eu sgrinio ar hyn o bryd.
Fodd bynnag, mae sgrinio coluddion yn wael iawn mewn gwirionedd. Maent wedi gweld gostyngiad yn nifer y bobl sy’n cael eu sgrinio, gyda dim ond 50.8 y cant yn defnyddio’r gwasanaeth sgrinio coluddion. Mae’n rhaid i ni wella’r ffigurau sgrinio hyn am eu bod yn ffordd o allu nodi pa bobl sydd angen gofal ar gam cynnar. A pham rydym yn helpu pobl? Amlygodd Rhun ap Iorwerth broblemau eraill a allai achosi pryderon, o ran oedi cyn mynd i weld meddyg teulu, ac un o’r rheini, o bosibl, yw dynion. Rydym yn ofnadwy am fynd at feddyg teulu. Nid ydym yn gwneud yr ymdrech. Rydym yn credu ein bod yn ddigon mawr ac nad oes gennym broblem. Mae angen i fwy ohonom gydnabod y ffaith y dylem fynd at feddyg teulu pan gredwn fod rhywbeth yn mynd o’i le. Ac rydym yn aml yn gwybod ei fod yn mynd o’i le, ond nid ydym eisiau cyfaddef hynny i ni ein hunain. Felly, mae’n rhaid i ni addysgu pobl yn well ynglŷn â dilyn y camau hunanymwybyddiaeth a’r prosesau sgrinio er mwyn i ni allu ei ganfod yn gynnar mewn gwirionedd.
Ddirprwy Lywydd, mae cynnydd yn cael ei wneud, ond mae llawer mwy i’w wneud o hyd, ac mae’n rhaid i ni i gyd weithio gyda’n gilydd i sicrhau mwy o lwyddiant.