Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n hapus i ymateb i ddadl heddiw, a dechrau drwy gydnabod y sylwadau a wnaed eisoes, y bydd diagnosis cynharach o ganser yn galluogi pobl i gael triniaeth lai difrifol a llai costus, ac yn arbennig, profiad gwell i gleifion, ond hefyd ansawdd bywyd a ddylai arwain at ganlyniadau gwell, sy’n hollbwysig. Ond nid wyf yn cytuno â goblygiad canolog y cynnig, sef mai’r amser targed ar gyfer diagnosis yw’r ffordd i fynd ati i wella lefelau canfod canser neu ganlyniadau o reidrwydd. Rwy’n derbyn bod targedau’n chwarae rhan mewn unrhyw system ofal iechyd, ond gallant greu ymddygiadau gwrthnysig mewn gwahanol rannau o’r gwasanaeth, gan gynnwys mewn llwybrau gofal canser cymhleth. Ac ar amseroedd aros i ddechrau triniaeth ganser, rydym yn parhau i wneud yn well na Lloegr, ond ein her yw sut i wneud yn well byth yn hytrach na dim ond cymharu ein hunain â system Lloegr. Ac rwy’n cydnabod yr hyn a ddywedwyd am argymhellion tasglu canser Lloegr y cyfeiriodd Plaid Cymru atynt yn eu cynnig. Nid ydynt yn berthnasol i Gymru, ac mae gennym system iechyd wahanol. Nid bod yn bedantig yw hyn; mae’n system sy’n cael ei darparu mewn ffordd wahanol ar sail gofal sylfaenol a gofal eilaidd integredig, a byrddau iechyd, ar fodel wedi’i gynllunio yn hytrach na’i gomisiynu, ar sail cydweithio nid dirwyon, targedau a thariffau.
Nawr, mae diagnosis cynharach yn brif ffocws y cynllun cyflawni canser diwygiedig a gyhoeddwyd ac a lansiwyd yn y pythefnos diwethaf. Gwyddom fod y Rhwydwaith Canser yn gweithio gyda gofal sylfaenol ar weithredu canllawiau atgyfeirio oherwydd amheuaeth o ganser y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, a bod hynny ynddo’i hun yn her go iawn i’r gwasanaeth cyfan. Mae’r rhwydwaith yn ystyried diwygio llwybrau diagnostig, gan ddysgu o’u hymweliad â Denmarc, ynglŷn â llwybrau atgyfeirio ychwanegol ar gyfer symptomau amwys. Rydym yn gwybod bod honno’n her sylweddol hefyd. A thrwy’r contract meddygon teulu, mae clystyrau’n dadansoddi’r gwersi a ddysgwyd o ymarfer atgyfeirio meddygon teulu. Ac mae rhaglen y fframwaith ar gyfer canser yn datblygu cymorth i feddygon teulu allu gwella diagnosis, atgyfeirio a chefnogaeth i bobl sydd wedi cael diagnosis hefyd.
Ar sgrinio, soniwyd bod mwy na 400,000 yn cael eu sgrinio fel mater o drefn yng Nghymru bob blwyddyn yn rhan o’n rhaglenni uchel eu parch ar gyfer sgrinio’r fron, sgrinio serfigol a sgrinio coluddion. Rydym eisoes wedi addasu’r broses sgrinio canser y fron yn helaeth, ac yn ddiweddar rydym wedi cytuno i weithredu profion gwell a mwy derbyniol ar gyfer canser ceg y groth a sgrinio am ganser y coluddyn. Ac mewn gwirionedd, dyna un o’r rhwystrau mawr i wella nifer y bobl sy’n mynychu ac yn cael prawf canser y coluddyn. Nawr, mae strategaeth gweithlu’r GIG, a byrddau’r rhaglen ddelweddu a phatholeg yn mynd i’r afael â phrinder gweithlu allweddol mewn patholeg a radioleg. Bydd cyflwyno systemau gwybodeg cenedlaethol yn integreiddio gofal yn well ar draws safleoedd a sefydliadau sydd â systemau patholeg a delweddu cyffredin.
Felly, nid oes unrhyw laesu dwylo ar ein rhan fod popeth yn berffaith yn ein system. Rydym yn parhau i herio, i ddiwygio ac i symud ymlaen gyda gwahanol agweddau ar ofal canser ledled Cymru. Ac rwy’n falch fod pwyntiau wedi’u gwneud ynglŷn ag amseroedd aros am ddiagnosis, ac yn arbennig y gydnabyddiaeth gan David Rees ein bod wedi gwella ein perfformiad mewn perthynas ag amseroedd aros diagnostig dros y flwyddyn ddiwethaf. Rwy’n disgwyl gweld mwy o welliant eto y tu hwnt i ddiwedd y flwyddyn berfformio hon, ac yn ddiweddar, cyhoeddais fuddsoddiad o £6 miliwn yn y ganolfan ddiagnostig yng Nghwm Taf. Rydym eisoes yn gwneud defnydd o rai gwasanaethau diagnostig symudol yn ogystal. Ond yn y dyfodol, byddwn yn buddsoddi’n drwm eto er mwyn darparu cyfarpar diagnostig newydd, gan gynnwys technegau delweddu CT, MRI a PET, yn ogystal â £15 miliwn pellach sydd wedi’i glustnodi ar gyfer offer diagnostig yn dilyn cytundeb y gyllideb ddrafft gyda Phlaid Cymru.
Mae gennym grŵp gweithredu endosgopi cenedlaethol sy’n gweithio i leihau amseroedd aros a gwella ansawdd, ac yn ddiweddar cyhoeddais £3 miliwn ychwanegol mewn gwariant cyfalaf ar offer diheintio ar gyfer yr unedau hyn. Ac rwy’n falch ar y pwynt hwn i gydnabod y pwyntiau a wnaed gan Rhianon Passmore am y buddsoddiad rydym eisoes yn ei wneud, ac yn parhau i wneud, ar sail gynyddol, mewn gwasanaethau canser, a’n cefnogaeth i ganolfan ganser newydd Felindre sy’n werth £200 miliwn. Nawr, rwy’n deall y teimlad a’r egni sy’n sail i’r cynnig, a’r argymhelliad y mae’n ei wneud, ond yn syml iawn, nid wyf yn cytuno bod targed mympwyol o 28 diwrnod yn gyfraniad ystyrlon. Nid wyf yn credu mai dyna’r ffordd iawn i fanteisio ar amser, egni ac ymdrech pobl yn y gwasanaeth er mwyn iddynt wneud y cyfraniad gorau i wella canlyniadau i gleifion canser mewn gwirionedd, gan y bydd y rhan fwyaf o gleifion ar lwybr 62 diwrnod eisoes wedi cael diagnosis penodol erbyn hynny, ond gall fod yn anodd gwneud diagnosis a chanfod difrifoldeb rhai canserau’r ysgyfaint a chanserau’r oesoffagws o fewn y 28 diwrnod. Nid wyf yn credu ei bod yn ddefnyddiol ceisio rhannu’r llwybr, yn hytrach na chael cymorth i gael diagnosis pendant a dechrau triniaeth bendant mewn gwirionedd. Rwy’n credu bod angen i ni roi amser i’n timau clinigol ddehongli a defnyddio’r diagnosis i gytuno ac yna i ddechrau ar gynllun triniaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o fewn 62 diwrnod.
Rwy’n hapus iawn i gyfeirio’n ôl at y ffaith fod cyfraddau goroesi ar ôl blwyddyn ac ar ôl pum mlynedd yn uwch nag erioed. Maent yn parhau i wella, mae lefelau marwolaeth gynamserol yn parhau i ostwng, a phrofiad y claf yn eithriadol o uchel. Nid yw hyn yn golygu ein bod yn hunanfodlon ynglŷn â ble rydym a ble rydym eisiau bod. Ac ar ddiagnosteg, fel y dywedodd Tom Crosby, cyfarwyddwr meddygol rhwydwaith canser Cymru,
Rhaid i ni fwrw iddi’n ddidrugaredd i sicrhau diagnosis cynharach.
Nid oes unrhyw awgrym nad ydym yn credu bod diagnosis yn bwysig. Ond yng Nghymru, credaf fod gennym ddull cadarn o weithredu a chynllun ar waith i wneud hynny eisoes, ac mae’r cynllun hwn yn cael ei groesawu gan glinigwyr a’r trydydd sector. Os hoffech, ysgrifennwyd y cynllun cyflawni canser blaenorol ar gyfer y gwasanaeth a’i roi iddynt i fwrw ati i’w gyflawni, ac fe’i croesawyd ar y pryd. Ond mae’r cynllun cyflawni canser newydd wedi cael ei ysgrifennu gyda’r gwasanaeth a chyda’r trydydd sector, ac rydym yn gweithio ar sail y dystiolaeth a gasglwyd gennym ar y peth iawn i’w wneud i wella’r hyn rydym eisoes yn ei wneud yng Nghymru. Mae yna gefnogaeth eang i’r cynllun, ac mae’n rhannu uchelgais i wella canlyniadau yn barhaus. Ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’n gilydd gyda’r gwasanaeth, y trydydd sector ehangach a’r cyhoedd i wneud hynny.