Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Gwnaf. Mae'r system sgôr rhybudd cynnar cenedlaethol yn rhan o'r dull cyson hwnnw. Mae pob ysbyty yn ei defnyddio. Mae'n system syml sy'n galluogi staff i asesu pa un a yw cleifion yn datblygu madredd, a, hefyd, mae parafeddygon y gwasanaeth ambiwlans yn defnyddio’r system honno i ddatblygu systemau i sgrinio cleifion ar gyfer madredd cyn iddyn nhw gyrraedd yr ysbyty. Hefyd, mae staff yn defnyddio sgrinio safonol ar gyfer madredd i nodi madredd ac annog gweithredu cyflym, a elwir y 'Sepsis Six Bundle'. Ac, felly, rydym ni’n parhau i ddatblygu'r gwaith a wnaed eisoes yn ystod y pedair blynedd diwethaf i sicrhau bod mwy o bobl yn cael diagnosis cynnar o fadredd a bod llai o bobl yn colli eu bywydau o’i herwydd.