Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Brif Weinidog, gyda bron i 2,000 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn, llawer ohonynt y gellid eu hatal, madredd yw un o'r lladdwyr mwyaf nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol ohono. Er bod addysgu'r cyhoedd i adnabod yr arwyddion, a sicrhau bod camau'n cael eu cymryd yn y GIG i atal dechreuad madredd yn hanfodol, mae sicrhau bod ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn adnabod yr arwyddion hefyd yn bwysig. Mae llawer o oroeswyr madredd yn fyw diolch i feddyg teulu a adnabyddodd ddechreuad madredd yn gynnar. Felly, Brif Weinidog, pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod pob meddyg teulu yng Nghymru yn cael hyfforddiant i adnabod arwyddion yn ogystal â sut i'w atal?