<p>Ardrethi Busnes</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 29 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Plaid Cymru 1:37, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, rwyf wedi cael etholwyr di-ri yn ysgrifennu ataf am ardrethi busnes—perchnogion busnesau bach, pobl sy’n rhedeg siopau annibynnol—ac maen nhw i gyd yn dweud wrthyf fod ardrethi busnes eich Llywodraeth yn bygwth eu busnesau, y gallent olygu y bydd yn rhaid iddyn nhw gau neu, yn sicr, diswyddo pobl. Pam ydych chi’n niweidio busnesau bach yn fy rhanbarth i?