Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Wel, rwy’n credu bod yn rhaid i’r Aelod gofio mai’r tro diwethaf y bu ailbrisiad oedd pan roedd ei blaid ef mewn Llywodraeth. Ni chlywais unrhyw gwynion bryd hynny. Mae'n iawn i ddweud, mewn rhai rhannau o Gymru, bod problemau penodol y bydd angen mynd i'r afael â nhw, ond mae hyn yn niwtral o ran refeniw. Nid ffordd i’r Llywodraeth gael mwy o arian yw hon. Mae’n ffordd o ailgydbwyso'r system ardrethi busnes heb fod elw net i'r Llywodraeth. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, rydym ni’n cydnabod y bydd rhai rhannau o Gymru lle mae pethau’n anodd, a dyna pam yr ydym ni eisoes wedi cyhoeddi cynllun rhyddhad trosiannol o £10 miliwn, a byddwn yn edrych i weld beth arall y gallwn ni ei wneud er mwyn gwneud y broses bontio yn ddidrafferth.