Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Diolch, Lywydd. Rydw i’n cynnig y gwelliant yma, ac mae o’n canolbwyntio ar un elfen o’r adroddiad, mewn difrif. Mae adroddiad y prif swyddog meddygol yn ein hatgoffa ni eto fod y cymunedau tlotaf yn talu pris sylweddol o ran eu hiechyd, yn syml am fod yn dlawd ac am fod pobl yn byw ochr yn ochr â phobl dlawd eraill. Mae yna ormod o ganolbwyntio weithiau, rydw i’n meddwl, ar y dewisiadau mewn ffordd o fyw sy’n cael eu gwneud gan bobl. Mae’n wir, wrth gwrs, fod nifer yr achosion o ysmygu a gordewdra yn fwy yn yr ardaloedd tlotach, ond mi ddylem ni fod yn wyliadwrus bob amser, rydw i’n meddwl, o greu naratif bod y bai am iechyd gwael ar y person ei hun neu ei bod hi wastad yn wir mai pobl dlotach sydd efo’r ymddygiad iechyd gwaelaf.
Mae yna lawer o bobl ar incwm isel sy’n byw bywyd iach iawn, ond sy’n dal yn gorfod delio ag effeithiau cartrefi gwael, cyflogaeth ansicr ac yn y blaen. Cofiwch hefyd fod data arolwg iechyd Cymru’n dangos bod yfed alcohol hyd at fod yn niweidiol yn uwch ymhlith gweithwyr rheoli yn aml nag ymhlith gweithwyr eraill, ac rydw i’n siŵr bod yna rai rheolwyr dosbarth canol a fyddai’n fodlon cyfaddef y gallen nhw wneud efo colli ychydig o bwysau. Felly, rydw i’n falch bod adroddiad y prif swyddog meddygol yn rhoi sylw i’r ffactorau yma, sydd ddim yn gallu cael eu diystyru rywsut fel canlyniad i ymddygiad gwael mewn rhyw ffordd.
Rydym ni wedi tynnu sylw, ar sawl achlysur, at y cysylltiadau rhwng tai gwael ac iechyd, rhwng digartrefedd ac iechyd, cyflogaeth ansicr a diweithdra ac iechyd ac yn y blaen. Ni all yr un o’r rheini gael ei ystyried fel dewis bywyd, wrth gwrs. Mae hefyd yn wir y bydd gwell addysg, mynediad at fannau gwyrdd a chyflogaeth mwy diogel yn cael yr effaith groes ar iechyd gydol oes rhywun.
Rŵan, mae’r prif swyddog meddygol yn ein hatgoffa ni’n benodol am brofiadau plentyndod andwyol hefyd, a phwysigrwydd y 1,000 o ddyddiau cyntaf. Mae o’n nodi bod y dystiolaeth yn dangos y byddai buddsoddi ychydig dros £100 mewn atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn arwain at dros £6,000 o arbedion o’u mesur ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus dros bum mlynedd cyntaf bywyd. Mae hynny’n gyfradd buddsoddi llawer gwell na chewch chi mewn llawer o feysydd eraill—ar wahân i roi bet ar Leicester i ennill yr uwch gynghrair o bosib. Mae hwnnw’n ‘return’ eithaf da. Mi allwn ni ddod o hyd i dystiolaeth debyg ar draws gwasanaethau cyhoeddus eraill hefyd. Mi fyddai tai gwell yn atal afiechyd, creu mannau gwyrdd yn arwain at well iechyd, ac yn y blaen.
Dyna pam bod y prif swyddog meddygol yn argymell bod yn rhaid i’r NHS felly weithio efo gwasanaethau cyhoeddus eraill—atal tân, cyngor ariannol, cefnogaeth tai—wrth geisio creu, os liciwch chi, iechyd cynaliadwy i Gymru ar gyfer y dyfodol. Mi fyddwn i’n mynd yn bellach yma hefyd. Mae’r adroddiad yn wir yn dangos bod torri gwariant cyhoeddus, fel ydym ni wedi ei weld gan y Llywodraeth Geidwadol yn Lloegr, wedi bod yn enghraifft o economi ffug o’r lefel uchaf, a’r mwyaf bregus sy’n dioddef pan fo gwariant cyhoeddus yn cael ei dorri. Mae mor syml â hynny.
Wrth wraidd y broblem rydym ni’n ei hystyried yn fan hyn mae anghydraddoldeb. Yr wythnos diwethaf, mi ddangosodd gwaith ymchwil diddorol fod gan y rhai ar waelod haenau hierarchaeth y deyrnas anifeiliaid systemau imiwnedd gwaelach o ganlyniad i statws cymdeithasol isel. Mae yna lawer o academyddion sy’n arbenigo mewn anghydraddoldebau iechyd wedi nodi perthnasedd yr astudiaeth hon i fodau dynol hefyd. Anghydraddoldeb ei hun ydy’r broblem. Mae’r llyfr ‘The Spirit Level’ yn crynhoi llawer o’r ymchwil ar hyn. Mae gwledydd efo llai o anghydraddoldeb yn tueddu bod yn sylweddol iachach, yn tueddu bod â chyfraddau troseddu is, gwell symudedd cymdeithasol ac ati. Mae hynny’n rhywbeth y dylem ni ei ystyried yn ofalus iawn, iawn pan fyddwn ni’n trafod y symiau mawr o arian rydym ni’n eu gwario ar ddelio efo effeithiau anghydraddoldeb. Taclo’r broblem yw’r allwedd, nid delio efo’r symptomau. Mae Plaid Cymru’n credu pe bai’r Llywodraeth yn fwy rhagweithiol i helpu greu amgylchedd iachach, byddai dewisiadau bywyd gwell yn dilyn yn anochel. I gydnabod hynny, cefnogwch y gwelliant yma.