Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Yn gyntaf oll, hoffwn yn fawr iawn groesawu’r adroddiad hwn gan y prif swyddog meddygol, a hoffwn ddiolch i Dr Frank Atherton a'r Athro Chris Jones am y gwaith y maent wedi ei roi i mewn iddo. Rwy'n credu bod yr adroddiad hwn yn dangos yn amlwg nad yw dull un maint i bawb yn gweithio i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Gan fod Rhun ap Iorwerth newydd siarad am y graddiant cymdeithasol, hoffwn i wneud sylw cyflym y byddwn yn cefnogi gwelliant heddiw.
Mae'n ddiddorol nodi’r niwed y gall ymyriadau sydd wedi eu defnyddio neu eu hystyried yn wael eu hachosi. Fel y dywed yr adroddiad, mae ymyriadau iechyd nad ydynt yn cyrraedd y rhai sydd fwyaf mewn perygl yn debygol o gynyddu anghydraddoldeb canlyniadau iechyd. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, yn y gorffennol mae eich adran wedi bod yn amharod i roi dangosyddion perfformiad allweddol ar waith i reoli neu fesur canlyniadau polisi yn effeithiol. Gyda’r datganiad hwn, mae'n rhaid eich bod yn gweld y perygl y gall polisi aneffeithiol ei gael yn uniongyrchol ar iechyd. A wnewch chi, felly, ymrwymo i gynhyrchu pwyntiau mesur allweddol i sicrhau effeithiolrwydd y polisïau sydd wedi’u cyflwyno?
Mae'r adroddiad hefyd yn mynd ymlaen i dynnu sylw at y ffaith fod gan ddarparu gwasanaethau GIG heb ystyried y graddiant cymdeithasol y potensial i gynyddu'r anghydraddoldeb. Felly, ar y sail hon, a fyddech chi hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, yn ystyried rhoi mwy o bŵer i fferyllfeydd cymunedol i ymgymryd â rhai o'r mân swyddogaethau er mwyn galluogi meddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i ganolbwyntio ar waith mwy manwl a'r rheini sydd â’r angen mwyaf?
Yn ddiweddar, ymwelais â’r practis rhagorol, Eastside Dental, yn Abertawe, sy'n un o ddim ond dwy feddygfa yng Nghymru sy’n treialu'r prototeip newydd o ddarparu dull mwy cyfannol o ymdrin â'u cleifion. Mae'r trefniant hwn yn caniatáu i lawer mwy o waith gael ei wneud i ymdrin ag atal yn hytrach na dim ond ceisio datrys y problemau fel y maent wedi codi o ran deintyddiaeth. Mae'r adroddiad yn sôn am weithio gyda phartneriaethau i leihau anghydraddoldeb cymdeithasol. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a fyddech yn barod i edrych yn fanwl ar y prototeip hwn sydd wedi cei dreialu yn Abertawe a gweld a allai hwn fod yn fodel y gallwn ni ei gyflwyno ledled Cymru. Mae atal pobl rhag cael dannedd drwg yn y lle cyntaf nid yn unig yn helpu gyda hylendid ac iechyd y geg, ond mewn gwirionedd mae’n helpu gyda'u hiechyd cyffredinol hefyd. Dyma enghraifft arall o sut y gall cyd-gynhyrchu weithio o ddifrif.
Mae gwelliant 5 yn yr adroddiad, rwy’n teimlo, yn mynd i’r afael â chraidd y mater. Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddech cystal ag amlinellu pa drafodaethau yr ydych yn eu cael gyda'ch cydweithiwr yn y Cabinet i sicrhau bod y fframwaith cynllunio diwygiedig yn mynnu bod sefydliadau’n cynllunio ar gyfer canlyniadau iechyd teg ar gyfer eu poblogaethau ac yn canolbwyntio ar leihau'r galw? Rwy’n credu y byddai hynny’n hollol allweddol i allu symud ymlaen o ran yr agwedd ar anghydraddoldeb iechyd a gynhwysir yn yr adroddiad hwn.
Mae dau bwynt arall yr wyf yn dymuno eu gwneud yn gyflym. Cafodd ei wneud yn glir yn yr adroddiad hwn yr effaith y gall profiad andwyol plentyndod ei chael ar ganlyniadau bywyd person arall. Credaf, ar gyfer y rhai a fyddai'n dymuno darllen yr adroddiad hwn, y byddwn yn argymell eich bod yn cael golwg fanwl ar ffigur 7 ac ar effeithiau tymor hir profiadau niweidiol plentyndod. Efallai y bydd pobl sydd wedi cael pedwar neu fwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, er enghraifft, 14 gwaith yn fwy tebygol o fod wedi bod yn dioddef trais yn y 12 mis diwethaf, ac 16 gwaith yn fwy tebygol o fod wedi cymryd crac cocên neu heroin. A phe byddem yn atal ACEs— profiadau niweidiol yn ystod plentyndod—i’r bobl ifanc hyn, yna gallwn leihau rhai o'r canlyniadau ofnadwy yr ydym yn eu gweld yn y gwasanaeth iechyd. Felly, pe baem yn edrych ar y defnydd o heroin a chrac cocên, er enghraifft, gallem leihau hynny 66 y cant. Mae hwn yn dabl trawiadol iawn, iawn.
Ysgrifennydd y Cabinet, un o'r meysydd sydd wedi cael eu hamlygu yn ddiweddar yw'r cam-drin rhywiol a’r aflonyddu y mae merched ifanc a menywod ifanc yn eu hwynebu yn yr ysgol. Maent yn dioddef lefelau o gam-drin rhywiol gan ddynion ifanc nad ydynt wedi deall yn hollol beth y mae’r gêm yn ei olygu, a sut yr ydych yn parchu eich gilydd—lefelau o gam-drin na fyddem yn disgwyl eu dioddef yn ein gweithle, ond mae pobl ifanc yn gorfod ei ddioddef. A gaf i dynnu eich sylw at adroddiad y pwyllgor dethol o San Steffan a edrychodd ar bob plentyn ysgol a merch ym Mhrydain? Mae dros ddwy ran o dair o ferched wedi dioddef cam-drin rhywiol yn yr ysgol. Ac a gaf i ofyn ichi siarad â'ch cydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, am sut y gallem flaenoriaethu iechyd rhywiol o fewn ein cwricwlwm, fel y gallwn addysgu ein pobl ifanc sut i fod yn fwy parchus a gallu ymdrin yn well â’r cam-drin sy’n digwydd o fewn perthynas? Oherwydd, pan fyddwn yn edrych ar y rhestr hon o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, mae llawer iawn ohonynt yn mynd yn ôl i’r blynyddoedd cynnar hynny a'r berthynas rhwng dynion a menywod. Ac mae gofal iechyd doeth yn fater arall yr hoffwn i fod wedi ei godi, ond byddaf efallai yn ysgrifennu atoch ar y mater hwnnw.