10. 6. Dadl: Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol ar gyfer 2015-16

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:36 pm ar 29 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 5:36, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Rwyf innau, hefyd yn croesawu adroddiad y Prif Swyddog Meddygol a'i bwyslais ar greu gwasanaeth iechyd yn hytrach na gwasanaeth salwch, sy'n rhywbeth yr ydym wedi siarad amdano am amser hir, a hefyd ei bwyslais ar statws economaidd-gymdeithasol, sydd eto yn rhywbeth sydd wedi cael ei drafod a'i drafod ers peth amser, ond efallai gyda phwyslais newydd yn yr adroddiad penodol hwn. Mae hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd ffordd o fyw i wahaniaethau mewn disgwyliad oes a disgwyliad oes iach, ac rwy'n credu bod nifer o bethau y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i fynd i'r afael â'r materion hynny a’u canolfannau economaidd-gymdeithasol. Er enghraifft, mae llawer y gellir ei wneud i annog bwyta'n iach. Gallem gael system goleuadau traffig o labelu bwyd, er enghraifft, rwy’n credu, i hysbysu pobl yn llawer mwy clir ynglŷn â pha fwydydd sy’n iach a pha fwydydd sydd ddim yn iach. Gallem gael treth siwgr, neu dreth fraster, er enghraifft. Yn amlwg, mae problemau’n codi o ran yr hyn sydd wedi ei ddatganoli a’r hyn nad yw wedi'i ddatganoli, a bydd rhywfaint ohono, yn ddiau, yn fater o geisio rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU, ond gall rhywfaint ohono fod yn edrych am ddatganoli pellach ac, yn wir, yr hyn y gallem fod yn ei wneud o fewn y pwerau presennol.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, iawn, fel yr ydym yn aml yn siarad amdano, Lywydd, ein bod yn meithrin agweddau ac ymddygiad da yn ein pobl ifanc mor gynnar â phosibl. Cytunaf yn llwyr â’r pwyslais ar y 1,000 o ddiwrnodau cyntaf, ac rwy’n gwybod bod tystiolaeth gynyddol ynglŷn â phwysigrwydd y blynyddoedd cynnar hynny. Mae gennym rwydweithiau ysgolion iach, wrth gwrs, ac rwy'n credu bod rhywfaint o arfer da iawn yno. Mae gennym gyfleoedd newydd, rwy’n credu, i sbarduno gwelliannau i lythrennedd corfforol, yn dilyn adroddiad Tanni Grey, ac o ran adolygu'r cwricwlwm, ac rwy’n gobeithio’n fawr iawn ein bod yn achub ar y cyfleoedd hynny.

Hoffwn ddweud ychydig am yr hyn yr ydym yn ei wneud yn lleol yng Nghasnewydd, Lywydd, yr wyf wedi’i grybwyll fwy nag unwaith o'r blaen.  Rwy’n meddwl ein bod yn gwneud cynnydd o ran tynnu rhai chwaraewyr allweddol at ei gilydd ym maes iechyd y cyhoedd, o’r bwrdd iechyd, Aneurin Bevan; Newport Live, y darparwyr gwasanaethau hamdden; y clybiau chwaraeon; Cartrefi Dinas Casnewydd, a chymdeithasau tai eraill; Cyfoeth Naturiol Cymru—mae llu o chwaraewyr wedi bod yn cyfarfod yn lleol ers peth amser i drafod sut yr ydym yn cael poblogaeth fwy egnïol yn gorfforol a sut yr ydym yn cael ymddygiadau iachach yn fwy cyffredinol.  Rydym wedi gwneud cynnydd.  Mae sefydliadau wedi ymrwymo i un diwrnod y mis o amser y staff i fynd ar drywydd yr agenda hon.  Maent yn edrych ar gamau y gallant ymrwymo iddynt a sut y gallant wneud un peth arall.  Maent yn edrych ar enghreifftiau o bob cwr o Gymru ac yn lleol o ran sut y byddwch yn cael y newid ar raddfa ehangach, yn hytrach na rhywbeth sydd yn lleol iawn.  Felly, rwy’n credu ein bod yn ceisio gwneud rhywbeth sy'n bwysig yn lleol o ran y materion a amlygwyd yn adroddiad y Prif Swyddog Meddygol. Rwy’n gobeithio hefyd fod ardaloedd eraill yng Nghymru yn edrych ar sut y gallwn adeiladu partneriaethau, dod â chwaraewyr allweddol at ei gilydd a chael cydweithredu newydd.  Felly, rwy’n gobeithio, Lywydd, fod Llywodraeth Cymru yn edrych yn ofalus ar yr hyn sy'n digwydd ar draws Cymru a hefyd yn edrych yn ofalus ar sut y gallai gefnogi’r mentrau hyn, efallai drwy rai cynlluniau peilot, er enghraifft, a allai gefnogi, adeiladu a chryfhau'r gwaith sy'n digwydd. Rwy’n gobeithio y gall y Gweinidog roi sylw i hynny yn ei sylwadau cloi.  Diolch yn fawr.