Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Yn fy marn i, mae hwn yn adroddiad ardderchog. Rwy'n credu bod y ffordd y mae'n cael ei fynegi yn glir iawn ac mae'n dangos yn glir y ffordd y dylem fynd. Croesawaf yn arbennig y pwyslais ar anghydraddoldebau iechyd a graddiant cymdeithasol oherwydd mae’r dystiolaeth yn gwbl glir bod mwy o salwch a marwolaethau cynnar yn fwy cyffredin mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn economaidd. Rydym yn gwybod yng Nghaerdydd ei hun bod y gwahaniaeth rhwng dwy ward, lle efallai y gallwch eu cyrraedd o fewn 10 munud, yn naw i 11 mlynedd o fywyd hirach yn yr ardal fwy cefnog. Ni all hynny fod yn dderbyniol. Hefyd, ni all nifer y marwolaethau ymhlith plant sy'n digwydd mewn ardaloedd difreintiedig o’i gymharu â'r ardaloedd mwy cyfoethog hynny fod yn dderbyniol. Unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn credu y mae’n rhaid inni weithio arno ac mae'n rhaid i ni ei herio.
Felly, rwy’n croesawu’r pwyslais ar yr anghydraddoldebau iechyd. Rwyf hefyd yn croesawu'r flaenoriaeth glir iawn i’r 1,000 o ddyddiau cyntaf ym mywyd plentyn a bod y dyddiau hynny yn hollbwysig. Credaf fod hwn yn faes y mae'n rhaid i ni bwysleisio arno. Dylai'r wybodaeth am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, rwy’n credu, bennu sut y byddwn yn cynnal ein polisi yn y Cynulliad hwn. Mae’r dystiolaeth mor gryf am yr hyn sy'n digwydd yn nes ymlaen os byddwch yn cael profiad, dyweder, o bedwar neu fwy o’r profiadau niweidiol hynny yn ystod plentyndod. Felly, rwy’n meddwl bod yr holl wybodaeth yno ar sut y mae angen inni weithredu. Yn amlwg, mae sefydlu arferion bwyta da ac iach ac ymarfer corff yn gynnar iawn yn bwysig iawn.
Yr unig beth yr oeddwn i'n synnu nad oedd yn yr adroddiad hwn, ac efallai fy mod wedi colli hynny, ond nid wyf yn credu fy mod wedi gweld unrhyw gyfeiriad at fwydo ar y fron o gwbl. Rwyf o ddifrif yn credu mai dyna un o'r meysydd allweddol y mae angen inni ei ystyried, oherwydd, os ydym yn edrych ar fater bod yn rhy drwm, rydym yn gwybod fod tystiolaeth i ddangos bod plant sy'n cael eu bwydo ar y fron yn llawer llai tebygol o gael plant rhy drwm. Rydym yn gwybod bod Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell bwydo ar y fron yn unig am y chwe mis cyntaf, ac mae tystiolaeth hefyd i ddangos bod bwydo ar y fron yn lleihau'r risg o fabanod yn cael heintiau. Ar gyfer y fam, mae manteision iechyd hefyd, gan gynnwys llai o risg o ganser y fron a chanser yr ofari ac osteoporosis. Mae'n hanfodol bwysig. Felly, rwy’n synnu nad oes dim yn yr adroddiad hwn, oni bai fy mod i wedi ei golli, sy'n dweud, pan fyddwn yn gweithio yn galed iawn yn y 1000 diwrnod cyntaf, 'Bwydo o'r Fron yw un o'r pethau hollbwysig', gan ei fod yn meithrin perthynas gyda’r fam, ac rydym yn gwybod, drwy edrych ar anghydraddoldebau iechyd, bod llai yn bwydo ar y fron mewn ardaloedd tlotach. Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn gwneud ymdrech i sicrhau y gellir annog mamau i fwydo ar y fron.
Rydym yn gwybod bod gweithwyr iechyd proffesiynol dan bwysau ac mae'n cymryd amser ac ymdrech i geisio helpu mamau i fwydo ar y fron, oherwydd weithiau nid yw'n hawdd ac mae angen i chi dreulio amser gyda mamau newydd. Gwn hefyd fod tystiolaeth sy'n dangos bod mamau ifanc yn arbennig—mae’r cyfraddau bwydo ar y fron i famau ifanc yn is na'r cyfartaledd. Felly, rwy’n credu, unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni fynd i'r afael ag ef. Yng Nghymru, mae'r cyfraddau bwydo ar y fron uchaf ym Mwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys, ar 72 y cant, a'r isaf yng Nghwm Taf, ar 50 y cant. O edrych ar y babanod sy'n gadael yr unedau newyddenedigol, cyfarfûm, fel y credaf y gwnaeth eraill, â'r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, ac roeddent yn tynnu sylw at y gwahanol gyfraddau bwydo ar y fron ledled y DU pan fydd menywod yn gadael yr unedau newyddenedigol. Roedd y ganran uchaf yn 85 y cant, a'r isaf ar 43 y cant, ac roedd Cymru ar 43 y cant. Felly, nid wyf eisiau tynnu dim oddi ar yr adroddiad hwn, oherwydd rwy’n credu ei fod yn adroddiad gwych, ac rwy’n credu mai dyma’r ffordd y dylem fod yn mynd i'r afael â'r materion hyn. Ond rwy’n credu bod bwydo ar y fron yn genhadaeth fwy, a does dim pwyslais ar fwydo ar y fron yn yr adroddiad. Mae'n helpu, ar y cam cynharaf posibl, i sefydlu‘r bond hwn—ac rydym yn gwybod am werth a maeth llaeth y fron—ond mae’n rhaid ichi wneud ymdrech i wneud iddo ddigwydd, mewn rhai sefyllfaoedd, ac rwy’n meddwl y dylem fod yn rhoi mwy o adnoddau i mewn i hynny. Ac rwy’n gwybod ei bod yn anodd, weithiau, i famau ifanc yn enwedig deimlo y gallant fwydo ar y fron pan fyddant yn teimlo bod stigma cymdeithasol. Yn ddiweddar, yn fy etholaeth i, sef Gogledd Caerdydd, roedd digwyddiad mewn caffi lleol—rydym yn clywed amdanyn nhw bob hyn a hyn, mae’r math hwn o beth yn digwydd—lle’r oedd rhywun yn ddifrïol gyda rhywun oedd yn bwydo ar y fron. Felly, mae’r hinsawdd hwnnw yn dal i fod yno. Felly, mae'n faes y mae angen i ni weithio arno, ac rwy’n meddwl ei fod yn faes lle gallwn wneud gwahaniaeth hirdymor i obeithion plant.