2. Cwestiwn Brys: Chwaraeon Cymru

– Senedd Cymru ar 29 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:17, 29 Tachwedd 2016

Rwyf wedi derbyn tri chwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66. Rwy’n galw ar Russell George i ofyn y cwestiwn brys cyntaf.

Photo of Russell George Russell George Conservative 29 Tachwedd 2016

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y penderfyniad i atal gweithgareddau bwrdd Chwaraeon Cymru dros dro? EAQ(5)0083(HWS)

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:18, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Ddydd Mercher diwethaf, ataliwyd holl weithgareddau bwrdd Chwaraeon Cymru gan Lywodraeth Cymru nes y bydd adolygiad o sicrwydd llywodraethu wedi ei gwblhau. Darperais ddatganiad ysgrifenedig i'r Aelodau ddoe yn nodi'r amgylchiadau a'r cylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad o sicrwydd. Ni fyddai'n briodol imi roi sylwadau pellach ar y mater hwn tan y bydd yr adolygiad wedi ei gwblhau.

Photo of Russell George Russell George Conservative

(Cyfieithwyd)

Wel, gobeithio bod hynny yn dal i ganiatáu i mi ofyn nifer o gwestiynau, Weinidog. [Chwerthin.] Wrth gwrs, mae natur sydyn yr ataliad o’r bwrdd yn ymyrraeth ddigynsail gan Lywodraeth Cymru, felly mae rhai cwestiynau yn y fan yma yr hoffwn eu gofyn.

A gaf i ofyn pryd yr oeddech chi’n gwybod gyntaf bod Chwaraeon Cymru wedi mynd yn gamweithredol? A oedd gennych chi a’r Llywodraeth hyder—neu a oes gennych chi yn y llywodraeth hyder yng ngallu cadeirydd Chwaraeon Cymru, ac os nad oes, a yw dilysrwydd ei adolygiad o Chwaraeon Cymru yn cario unrhyw bwysau? Ac, yn wir, a ydych chi’n cydnabod canfyddiadau'r adroddiad a ddatgelwyd yn answyddogol? Rwyf am ofyn a oedd y bleidlais o ddiffyg hyder yn gysylltiedig â chanfyddiadau adroddiad y cadeirydd a ddatgelwyd yn answyddogol?

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:19, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y cwestiynau yna. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n gyflym ac yn briodol ac er lles gorau y sefydliad. Bu swyddogion yn ymwybodol o densiynau ar y bwrdd yn ystod y ddwy neu dair wythnos diwethaf, ond y disgwyliad mewn gwirionedd oedd y byddai'r prosesau llywodraethu arferol yn galluogi'r bwrdd i reoli hyn a chyrraedd datrysiad cytûn. Ond ni ddigwyddodd hynny. Mae Chwaraeon Cymru yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru ac, fel y cyfryw, mae ganddo broses lywodraethu ddatblygedig, felly ni fyddwn ond yn ymyrryd mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn gyffredinol, rydym yn disgwyl i bob un o'n cyrff noddedig ddatrys eu problemau eu hunain. Nid oeddent yn gallu defnyddio'r broses lywodraethu i ddatrys y problemau, a phan fydd hyn yn digwydd, gellir codi’r problemau wedyn gyda Llywodraeth Cymru. Ond daethpwyd i’r casgliad bod camweithredu, a dyna lle'r ydym ni yn awr, ar sail y ffaith bod y bwrdd wedi cyrraedd pwynt o fabwysiadu pleidlais o ddiffyg hyder heb ddilyn holl gamau’r ddau lwybr hynny.

Mae adolygiad y cadeirydd, a'r adolygiad o sicrwydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gomisiynu, ar wahân. Mae’n ymddangos eu bod wedi’u cyfuno yn yr adroddiadau diweddar yn y wasg. Mae'n werth nodi fy mod wedi cwrdd â dau o'r pedwar aelod o'r panel annibynnol, sy'n gweithio ar adolygiad y cadeirydd y bore yma i drafod y ffordd ymlaen ar gyfer yr adolygiad hwnnw gan y cadeirydd. Roedd yr aelodau o’r panel y cyfarfûm â nhw hefyd yn cynrychioli’r ddau aelod arall o'r panel nad oeddent yn gallu bod yma heddiw.

Rwyf eisiau achub ar y cyfle hwn i ganmol y panel am yr uniondeb y maen nhw wedi’i ddangos yn y gwaith a wnaed hyd yn hyn. Maen nhw’n glir iawn y bydd y themâu sy'n dod i’r amlwg yn adolygiad y cadeirydd yn ei gwneud yn adolygiad gan gymheiriaid yn ofynnol. Felly, rwy’n disgwyl i'r gwaith hwn ddod i ben yn gynnar yn y flwyddyn newydd, pan fydd yr adolygiad o sicrwydd wedi’i gwblhau. Bydd yr adroddiad terfynol wedyn yn darparu canllawiau i ni hefyd ar y ffordd ymlaen ar gyfer y sector. Ac, wrth gwrs, rwy'n awyddus i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau.

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Plaid Cymru 2:21, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi benodi bwrdd dros dro i symud pethau ymlaen ac a wnewch chi dderbyn pryderon yn ehangach, gan, efallai, sefydliadau sydd eisoes yn rhyngweithio â’r corff? Ac mae'n debyg mai fy mhrif gwestiwn yw: sut ydym ni wedi cyrraedd y pwynt hwn pryd yr ataliwyd y bwrdd yr wythnos diwethaf? Oni ddylai’r pethau hyn fod wedi eu datrys cyn cyrraedd y pwynt hwn?

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour

(Cyfieithwyd)

Credaf fy mod i wedi disgrifio’r sefyllfa a achosodd cyrraedd y penderfyniad yr wythnos diwethaf. Nid oes bwriad i benodi bwrdd dros dro wrth i’r adolygiad o sicrwydd gael ei gynnal yn ystod yr wyth wythnos nesaf, oherwydd bod trefniadau llywodraethu yn bodoli ar hyn o bryd ar gyfer Chwaraeon Cymru. Felly, bydd unrhyw fusnes neu unrhyw faterion y byddai'r prif weithredwr fel arfer yn eu dwyn i sylw'r bwrdd yn awr yn cael eu dwyn i sylw uwch swyddog Llywodraeth Cymru.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 2:22, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, mae'n destun pryder bod y bwrdd wedi ei atal dros dro, sy'n awgrymu rhywfaint o ddiffyg cydlynu, ond wrth gwrs mae'n dda y bydd gweithgareddau arferol Chwaraeon Cymru yn parhau yn y cyfamser, a gobeithio y bydd hyn gyda chyn lleied o darfu â phosibl. Rwy'n siŵr y bydd staff y sefydliad yn gallu parhau i redeg pethau yn ystod yr wythnosau nesaf heb gyfraniad y bwrdd. Wrth gwrs, fel y gwyddom, mae aelodau'r bwrdd weithiau yn benodiadau gwleidyddol, felly mae staff weithiau yn gweithredu yn well hebddyn nhw yn busnesu. Ond byddwn yn disgwyl am eich adroddiad ymhen wyth wythnos gyda diddordeb. Diolch.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am roi'r cyfle hwn i mi gofnodi fy niolch i bob aelod o’r staff yn Chwaraeon Cymru sy'n gwneud gwaith gwirioneddol wych o dan amgylchiadau hynod anodd. Felly, rwyf yn gwerthfawrogi'r cyfle i gofnodi’r diolch hwnnw ac i roi sicrhau'r Aelodau y bydd busnes o ddydd i ddydd Chwaraeon Cymru yn parhau drwy gydol y cyfnod hwn.