Part of the debate – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Wel, diolch i chi am y cwestiwn brys yna. Gallaf ddweud wrthych fod fy asesiad, mewn gwirionedd, ar gyfnod cynnar iawn. Rwy’n credu ein bod i gyd yn ymwybodol o'r mater hwn trwy erthygl a ymddangosodd dros y penwythnos, sef y cyhoeddiad cyntaf y gellid cymryd camau cyfreithiol. Mae’r felin drafod British Influence yn bwriadu ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd, i ofyn iddo egluro ei safbwynt ar aelodaeth y DU o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd ar ôl gadael yr UE. Gallai’r broses hon arwain at ddwyn achos, ond nid oes achos llys yn bodoli ar hyn o bryd. Felly, mae'n amlwg bod unrhyw ymgyfreitha yn dal i fod ymhell yn y dyfodol. Gofynnwyd i Lywodraeth y DU egluro ei safbwynt ar dynnu allan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd o dan erthygl 127 o'r cytundeb hwnnw, ac edrychwn ymlaen at glywed yr hyn sydd ganddi i'w ddweud am hynny.