4. Cwestiwn Brys: Y Cytundeb Ardal Economaidd Ewropeaidd

– Senedd Cymru ar 29 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:39, 29 Tachwedd 2016

Rwy’n galw nawr ar Jeremy Miles i ofyn y trydydd cwestiwn brys.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 29 Tachwedd 2016

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu ei asesiad o oblygiadau cyfreithiol posibl y cyfreitha a fwriedir yn erbyn Llywodraeth y DU mewn cysylltiad ag Erthygl 127 o’r Cytundeb Ardal Economaidd Ewropeaidd? EAQ(5)0015(CG)

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:39, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch i chi am y cwestiwn brys yna. Gallaf ddweud wrthych fod fy asesiad, mewn gwirionedd, ar gyfnod cynnar iawn. Rwy’n credu ein bod i gyd yn ymwybodol o'r mater hwn trwy erthygl a ymddangosodd dros y penwythnos, sef y cyhoeddiad cyntaf y gellid cymryd camau cyfreithiol. Mae’r felin drafod British Influence yn bwriadu ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd, i ofyn iddo egluro ei safbwynt ar aelodaeth y DU o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd ar ôl gadael yr UE. Gallai’r broses hon arwain at ddwyn achos, ond nid oes achos llys yn bodoli ar hyn o bryd. Felly, mae'n amlwg bod unrhyw ymgyfreitha yn dal i fod ymhell yn y dyfodol. Gofynnwyd i Lywodraeth y DU egluro ei safbwynt ar dynnu allan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd o dan erthygl 127 o'r cytundeb hwnnw, ac edrychwn ymlaen at glywed yr hyn sydd ganddi i'w ddweud am hynny.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:40, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Oni fyddai'n cytuno â mi bod yr egwyddorion sydd dan sylw yma, i raddau, yn dibynnu ar y ffawtlin rhwng Brexit caled a meddal, os mynnwch chi? Bydd y DU bellach yn gadael yr UE, ond y cwestiwn yw: a fyddwn ni wedyn yn gadael yr AEE a'r mynediad at y farchnad sengl a ddaw yn sgil hynny? Mae erthygl 127 yn awgrymu bod hwnnw yn gwestiwn ar wahân ac—os caf ddweud—un na ofynnwyd i’r pleidleiswyr. Felly, a yw'n rhannu fy mhryder ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth y DU yn colli golwg ar ei rhwymedigaethau cyfreithiol trwy ruthro i wneud penderfyniadau gwleidyddol am yr hyn y mae pobl Prydain wedi pleidleisio drosto.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, mae gennym hefyd, fel y gwyddoch, y gwrandawiad yn cychwyn ymhen wythnos, ar 5 Rhagfyr, a bydd cynrychiolaeth o Lywodraeth Cymru yno, a fydd yn sicr yn penderfynu ar ddull y newid cyfansoddiadol. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw fy mod i o’r farn bod yr ymgyfreitha yn datgelu, hyd yn oed yn awr, diffyg llwyr Llywodraeth y DU o ran cynllunio, strategaeth a pharodrwydd ar gyfer Brexit, ac ymddengys bod diffyg ystyriaeth llwyr o gyfansoddiad y DU a rheolaeth y gyfraith. Ymddengys y ceir sefyllfa o anhrefn digynsail yn bodoli wrth wraidd y Llywodraeth, a’i hunig strategaeth yn ôl pob golwg yw ei bod eisiau cael ei ffordd ei hun ym mhopeth.

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 2:41, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod dros Gastell-nedd am gyflwyno'r cwestiwn brys hwn. A all y Cwnsler Cyffredinol egluro ei farn ar y mater hwn—pa un a yw sbarduno erthygl 127 yn gam cyfreithiol angenrheidiol, ac a ddylai hynny ddigwydd ar yr un pryd â chychwyn erthygl 50? Os felly, a wnaiff hefyd egluro pa un a—os bydd proses ymgyfreitha yn y dyfodol—fydd Llywodraeth Cymru yn ymyrryd mewn unrhyw achos cyfreithiol, fel y mae wedi gwneud yn apêl Llywodraeth y DU i’r Goruchaf Lys ar gychwyn erthygl 50? Ac yn olaf, a all ef hefyd ymrwymo i asesu pa un a oes cyfleoedd yn y broses o gychwyn erthygl 127 i endidau is-wladwriaeth, fel Cymru, o bosibl i adael neu aros mewn ffordd wahanol i'r wladwriaeth yn ei chyfanrwydd?

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:42, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Wel diolch. Rydych chi wedi gofyn nifer o gwestiynau, yn fy marn i, sy’n codi cwestiynau cyfreithiol cymhleth, penodol a hynod dechnegol, a bydd Llywodraeth Cymru yn awyddus i ystyried y rhain yn ofalus ac yn drylwyr maes o law. O ran cychwyn erthygl 127, rwy’n credu y gall rhai o'r materion hynny gael eu penderfynu gan y mater o egwyddor yn yr achos erthygl 50 sy'n cael gwrandawiad yn y Goruchaf Lys yr wythnos nesaf, a byddwn yn ôl pob tebyg yn rhagweld dyfarniad rywbryd yn gynnar ym mis Ionawr. Felly, o ran y broses, efallai mai hynny fydd y dull mewn gwirionedd. O ran yr hyn y gallai’r goblygiadau posibl fod i Gymru, mae’r cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd yn un o'r cytundebau UE sydd wedi ei wau i wead ein setliad cyfansoddiadol gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, felly, pan fyddwn yn gwybod yn union beth sydd wedi digwydd, pan fyddwn yn gwybod beth yn union yw ymateb Llywodraeth y DU i hynny, a phan fyddwn wedi gweld canlyniad yr achos erthygl 50, os bydd unrhyw faterion penodol sy'n berthnasol yn uniongyrchol i Gymru a buddiant Cymru, yna byddwn yn eu hystyried yn briodol a byddaf yn eich hysbysu yn unol â hynny.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:43, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Soniasoch am y felin drafod British Influence, ac maen nhw’n dweud nad oes darpariaeth yn y cytundeb Ardal Economaidd Ewropeaidd i aelodaeth y DU ddod i ben os yw’r DU yn tynnu allan o'r UE, felly bydd yn rhaid i'r DU dynnu ei hun allan o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd mewn proses ar wahân i adael yr UE ei hun. Fodd bynnag, mae Kenneth Armstrong, athro cyfraith Ewropeaidd ym Mhrifysgol Caergrawnt, , wedi tynnu sylw at y ffaith nad yw’r DU wedi llofnodi na chadarnhau’r cytundeb oherwydd nad oedd ganddo’r pŵer na’r cymhwysedd i wneud hynny—pŵer a chymhwysedd yr UE oedd hynny—felly, pan fyddai’r DU y tu allan i'r UE, byddai modd gorfodi’r cytundeb ar gyfer dibenion cyfyngedig iawn yn unig. Ar ba sail gyfreithiol, felly, y byddech chi’n herio safbwynt Llywodraeth y DU, sydd wedi ei ddatgan, sef bod y DU yn rhan o'r cytundeb AEE dim ond yn rhinwedd y ffaith ei bod yn aelod wladwriaeth o’r UE ac y bydd yr aelodaeth o’r AEE yn dod i ben yn awtomatig, ar ôl i’r DU adael yr UE?

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:44, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch yn fawr iawn am hynna. Rydych chi wedi codi’r elfen gyfatebol ddilys i’r ddadl a nodwyd fel y rheswm pam yr anfonwyd llythyr protocol cyn-gweithredu ar gyfer adolygiad barnwrol i Lywodraeth y DU mewn gwirionedd. Felly, yn gyntaf mae angen i ni wybod beth yw ymateb gwirioneddol Llywodraeth y DU i hynny. Yn ôl fy nealltwriaeth i o gronoleg y digwyddiadau, gadawsom Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop ym 1973, pan wnaethom ymuno â'r Undeb Ewropeaidd. Cytunwyd ar y cytundeb ardal economaidd Ewrop ym 1992, a daeth i rym ym 1994. Mae’n cynnwys y ddarpariaeth anarferol o ran nad yw wrth gwrs ddim ond yn cynnwys llofnod Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy—y gwladwriaethau EFTA—ond mae hefyd yn cynnwys yr Undeb Ewropeaidd fel llofnodwr yn ogystal â phob gwladwriaeth unigol. Rwy’n credu y bydd penderfynu pa un ai anghysondeb cyfreithiol yw hynny neu a yw’n codi materion cyfansoddiadol yn dibynnu ar nifer o faterion, a gellid cael penderfyniad ar un ohonynt o ganlyniad i wrandawiad y Goruchaf Lys ar erthygl 50 o ran y mater cyfansoddiadol o ran y broses. Ond byddwn yn rhoi ystyriaeth i’r materion sy'n cael eu codi, pan fyddwn yn gwybod yn glir beth yw safbwynt Llywodraeth y DU.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:46, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Onid yw'n hen bryd i’r rhai sy’n cwyno am adael yr UE roi’r gorau i geisio rhwystro’r dymuniadau a fynegwyd yn rhydd gan bobl Prydain ym mis Mehefin? Roedd y cwestiwn yn ddigon syml: a ydym ni eisiau aros yn yr UE neu adael yr UE? Nid oedd dim os nac oni bai. Nid oedd unrhyw gyfyngiadau nac amodau. Nid oedd unrhyw sôn am ba un a ddylai fod yn Brexit meddal neu galed. Y penderfyniad a gymerwyd gan bobl Prydain o dan amodau Deddf y refferendwm a basiwyd i hwyluso hyn oedd: a ydych chi eisiau aros neu adael? A phleidleisiodd pobl Prydain i adael. Cynhwysodd y blaid Geidwadol, yn ei maniffesto cyn yr etholiad cyffredinol diwethaf, baragraff a oedd yn dweud:

Rydym yn credu mewn caniatáu i'r bobl benderfynu: felly byddwn yn cynnal refferendwm mewn-allan ar ein haelodaeth o'r UE cyn diwedd 2017.

Mae gan y Llywodraeth fandad i weithredu ar ei haddewid maniffesto, a dylid anwybyddu’r holl wingo hyn gan y British Influence, sydd wedi’i gamenwi’n llwyr, ac sydd yn sefydliad ffrynt ar gyfer dylanwad Ewropeaidd, a dylem symud mor gyflym â phosibl i gychwyn erthygl 50 ac, os oes angen, erthygl 127 a gadael yr UE, yn unol â’r dymuniad a fynegwyd yn rhydd, ac yn ddiamod, gan bobl Prydain.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:47, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, yn wahanol i'r Aelod, nid wyf mewn sefyllfa i ddangos dirmyg llwyr i’n cyfansoddiad a rheolaeth y gyfraith. Ymddengys i mi fod gennym system gyfreithiol ag iddi egwyddorion sefydledig. Mae rhai o'r rhain gerbron llys uchaf y wlad ar hyn o bryd, a dylem ni mewn gwirionedd roi cydnabyddiaeth ddyledus i’r ffaith y bydd y llys hwnnw yn arfer ei awdurdodaeth ac yn rhoi penderfyniad fel barnwriaeth annibynnol. Mae gennyf ryw gof fy mod, yr wythnos diwethaf, wedi gofyn i'r Aelod wrthod a datgysylltu ei hun o ymdrechion arweinydd ei blaid ar y pryd i gynnal rhyw fath o orymdaith â ffaglau i’r Goruchaf Lys i godi ofn ar y barnwyr. Ni chlywais ef yn gwrthod hynny. Fy swydd i, fel Cwnsler Cyffredinol, yw amddiffyn y cyfansoddiad ac amddiffyn rheolaeth y gyfraith ac, yn wahanol iddo ef, byddaf mewn gwirionedd yn cyflawni'r ddyletswydd honno.