Part of the debate – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Oni fyddai'n cytuno â mi bod yr egwyddorion sydd dan sylw yma, i raddau, yn dibynnu ar y ffawtlin rhwng Brexit caled a meddal, os mynnwch chi? Bydd y DU bellach yn gadael yr UE, ond y cwestiwn yw: a fyddwn ni wedyn yn gadael yr AEE a'r mynediad at y farchnad sengl a ddaw yn sgil hynny? Mae erthygl 127 yn awgrymu bod hwnnw yn gwestiwn ar wahân ac—os caf ddweud—un na ofynnwyd i’r pleidleiswyr. Felly, a yw'n rhannu fy mhryder ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth y DU yn colli golwg ar ei rhwymedigaethau cyfreithiol trwy ruthro i wneud penderfyniadau gwleidyddol am yr hyn y mae pobl Prydain wedi pleidleisio drosto.