Part of the debate – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Diolch i'r Aelod dros Gastell-nedd am gyflwyno'r cwestiwn brys hwn. A all y Cwnsler Cyffredinol egluro ei farn ar y mater hwn—pa un a yw sbarduno erthygl 127 yn gam cyfreithiol angenrheidiol, ac a ddylai hynny ddigwydd ar yr un pryd â chychwyn erthygl 50? Os felly, a wnaiff hefyd egluro pa un a—os bydd proses ymgyfreitha yn y dyfodol—fydd Llywodraeth Cymru yn ymyrryd mewn unrhyw achos cyfreithiol, fel y mae wedi gwneud yn apêl Llywodraeth y DU i’r Goruchaf Lys ar gychwyn erthygl 50? Ac yn olaf, a all ef hefyd ymrwymo i asesu pa un a oes cyfleoedd yn y broses o gychwyn erthygl 127 i endidau is-wladwriaeth, fel Cymru, o bosibl i adael neu aros mewn ffordd wahanol i'r wladwriaeth yn ei chyfanrwydd?