Part of the debate – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Wel, mae gennym hefyd, fel y gwyddoch, y gwrandawiad yn cychwyn ymhen wythnos, ar 5 Rhagfyr, a bydd cynrychiolaeth o Lywodraeth Cymru yno, a fydd yn sicr yn penderfynu ar ddull y newid cyfansoddiadol. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw fy mod i o’r farn bod yr ymgyfreitha yn datgelu, hyd yn oed yn awr, diffyg llwyr Llywodraeth y DU o ran cynllunio, strategaeth a pharodrwydd ar gyfer Brexit, ac ymddengys bod diffyg ystyriaeth llwyr o gyfansoddiad y DU a rheolaeth y gyfraith. Ymddengys y ceir sefyllfa o anhrefn digynsail yn bodoli wrth wraidd y Llywodraeth, a’i hunig strategaeth yn ôl pob golwg yw ei bod eisiau cael ei ffordd ei hun ym mhopeth.