Part of the debate – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Yn gyntaf, a gaf i groesawu'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet? Mae'r dreth gwarediadau tirlenwi ynddi ei hun yn dreth anarferol iawn, onid yw? Y prif reswm dros y rhan fwyaf o drethi yw codi arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Nod y dreth hon yw effeithio ar ymddygiad. A dweud y gwir, pan gafodd y dreth wreiddiol ei chyflwyno, roeddwn yn amheus. Roedd yn ymgais i effeithio ar ymddygiad drwy ddirprwy. Roedd yn codi tâl ar gynghorau am y gwaredu, ond gweithredoedd trigolion a oedd yn effeithio ar faint o wastraff oedd yn mynd i safleoedd tirlenwi. Mae hi, fodd bynnag, wedi gweithio'n eithriadol o dda ac wedi effeithio ar ymddygiad. Bydd y Bil presennol yn llwyddiannus os na fydd unrhyw dreth yn daladwy. Nid wyf yn credu ein bod erioed wedi dweud hynny am dreth o'r blaen; rwy'n siŵr na fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud hynny am y dreth trafodiadau tir—'Bydd yn llwyddiannus os na fydd unrhyw dreth yn cael ei thalu.' Felly, rwy’n meddwl mai mater o newid ymddygiad ydyw mewn gwirionedd.
A gaf i ddweud bod ystod o drethi i'w talu ar bethau sy'n cael eu dympio, heblaw am dreth tirlenwi awdurdodedig, yn gam pwysig i’r cyfeiriad cywir? Rwy’n gwybod ei bod yn anodd ymdrin â thipio anghyfreithlon. Mae pobl yn tueddu i dipio’n anghyfreithlon yn y mannau anoddaf i’w dal. Nid ydynt yn ei wneud mewn ffordd a fyddai'n ei gwneud yn hawdd iddynt gael eu dal. Rwy’n gwybod bod awdurdodau lleol yn gweithio'n galed iawn i ymdrin â thipio anghyfreithlon, ac mae'n anodd, ond nid ydym yn sôn yma am dipio anghyfreithlon, rydym yn sôn am bobl sy'n cynnal safleoedd anghyfreithlon. Maent wedi gwneud hyn yn llwyddiannus iawn, yn ariannol, am nifer o flynyddoedd mewn rhai achosion. Maent yn cael dirwyon, ond nid ydynt yn gorfod talu’r swm y byddent pe byddent yn talu treth arno hefyd. Rwy’n credu y bydd hynny’n darbwyllo pobl yn llwyr oherwydd y byddant yn talu'r dreth ac yn cael dirwy, ac yna ni fydd budd iddynt mewn gwneud hynny. Felly, rwy’n credu y bydd hynny, unwaith eto, yn newid ymddygiad. Os, am bob dull o osgoi talu treth, y caiff hynny ei gau i lawr, byddaf i, beth bynnag, yn teimlo'n hapus.
Mae gennyf ddau gwestiwn. Un yw y bydd amrywio'r gyfradd dreth yn wahanol i'r hyn a godir ar yr ochr arall i’r ffin ar hyn o bryd yn cael un o ddwy effaith: bydd naill ai'n ein gwneud yn fewnforiwr net neu’n allforiwr net o wastraff tirlenwi. Felly, mae pwysau i’w gadw tua'r un faint ag y mae yn Lloegr. Mae cynifer o safleoedd tirlenwi mor agos at y ffin. Mae cymaint yn symud yn weddol agos at y ffin. Ond mae’r perygl hwnnw’n bodoli. Felly, mae pwysau i gadw pethau fwy neu lai yr un fath.
Mae’r ail un—a phle yw hwn, fel yr Aelod Cynulliad lleol—am y cynllun grantiau cymunedol. Mae'n bwysig iawn ac yn ddefnyddiol iawn, ond pan fo’n cael ei roi i bobl bum milltir i ffwrdd nad ydynt yn teimlo ei effaith o gwbl, a phan nad yw pobl sy'n byw ar garreg ei ddrws yn cael unrhyw beth, mae'n achosi rhywfaint o ofid. Felly, a ellir rhoi blaenoriaeth i'r bobl sydd agosaf at y safle tirlenwi? Mae gennym safle tirlenwi yn St Thomas yn Abertawe, ac eto lleoedd yn y maestrefi deiliog—nid fi sy’n cynrychioli’r rheini, rwy’n prysuro i ychwanegu—sy’n elwa arno, ac rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth sy’n achosi pryder gwirioneddol. Felly, a fyddai'n bosibl rhoi blaenoriaeth i bobl leol, h.y. y rhai y mae’r lorïau’n effeithio arnynt a’r rhai y mae unrhyw lwch neu bryfed yn effeithio arnynt?