7. 3. Datganiad: Y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 29 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 3:45, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i Mike Hedges am y ddau gwestiwn yna. Wrth gwrs, rwy’n cydnabod y pwynt y mae’n ei wneud am y ffin a sensitifrwydd tuag at gyfraddau gwahanol ar y ddwy ochr iddi. Ni fyddaf yn datgan y manylion ynglŷn â chyfraddau treth yn y Bil hwn tan hydref y flwyddyn nesaf. Rwy’n sylwi eu bod, yn yr Alban, lle mae fy nghydweithiwr yno wedi gorfod gwneud hyn eisoes, wedi penderfynu pennu cyfraddau sy’n union yr un fath â'r rhai dros y ffin ac, yn ddiau, roedd hynny’n adlewyrchu’r dadleuon y mae’r Aelod newydd eu gwneud. Bydd ef wedi sylwi, rwy’n gwybod, cyn belled ag y mae gwastraff anghyfreithlon dan sylw, bod y Bil yn darparu pŵer i bennu cyfradd dreth ar wahân ar warediadau gwastraff anghyfreithlon, a byddaf yn meddwl yn galed am beth fydd y gyfradd honno a sut y gallai fod angen iddi adlewyrchu costau mynd ar ôl y bobl hynny a fydd, yn y pen draw, yn gorfod ei thalu.

O ran y cynllun grant cymunedol, mae’r mater hwn ynglŷn â’r milltiroedd o amgylch y safle a phwy ddylai elwa arno wedi bod yn un o'r dadleuon mwyaf bywiog yn yr ymgynghoriad yr ydym wedi’i gynnal gyda rhanddeiliaid am ein syniad yma. Dywedais yn fy natganiad y byddaf yn cyhoeddi papur ar y gronfa cymunedau cyn imi ymddangos gerbron y Pwyllgor Cyllid ar 15 Rhagfyr, a byddaf yn sicr yn myfyrio ar y mater hwnnw yn y papur hwnnw.