Part of the debate – Senedd Cymru am 5:14 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Wrth siarad yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig ar faterion trawsffiniol yma ym mis Mai 2009, nodais,
‘mae symudiadau trawsffiniol mewn gwasanaethau iechyd... yn ffaith hir sefydledig, yn adlewyrchu’r realiti daearyddol a demograffig.’
Cyfeiriais at adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig ar wasanaethau trawsffiniol ar y pryd a ddaeth i’r casgliad fod diffyg cyfathrebu effeithiol rhwng Llywodraeth Cymru a’r Adran Iechyd yn Lloegr, a galwai ar y ddau i weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod hawliau trigolion Cymru i ddefnyddio gwasanaethau yn Lloegr, a’r ffordd arall, yn cael eu diogelu. Roeddent o’r farn fod protocol gwell ar lefel Llywodraeth yn hanfodol i safoni ac egluro trefniadau ariannu a mecanweithiau atebolrwydd, gan ddweud mai’r canlyniad y dylid ei sicrhau yw gofal di-dor i gleifion ar sail angen clinigol.
Roedd llywodraethwyr Sir y Fflint ar fwrdd Ysbyty Iarlles Caer wedi datgan mai eu dewis cyntaf o ysbytai yw Ysbyty Iarlles Caer ac ysbytai addysgu Lerpwl, ac roedd cleifion orthopedig wedi mynegi eu hangen i barhau i ddefnyddio ysbyty Gobowen. Roeddent yn cyfeirio at ddatganiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig na ddylai ymgysylltiad â dinasyddion ddod i ben ar y ffin, ac at adroddiad blynyddol bwrdd iechyd lleol Sir y Fflint y flwyddyn flaenorol, a oedd yn dweud bod mwy o gleifion Sir y Fflint yn cael eu trin fel cleifion allanol, achosion dydd neu achosion brys yn Ysbyty Iarlles Caer nag yn Ysbyty Maelor Wrecsam nac Ysbyty Glan Clwyd.
Er bod Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, yn ystod y trydydd Cynulliad, wedi dweud mai ei phrif nod oedd sicrhau cymaint o wasanaethau ag y gellid eu darparu’n ddiogel o fewn ffiniau Cymru, ac er bod Gwasanaeth Ymchwil diduedd y Cynulliad wedi dweud wrthyf yn 2013 eu bod wedi siarad â swyddog o Lywodraeth Cymru a gadarnhaodd mai polisi Llywodraeth Cymru oedd dychwelyd cleifion o Gymru sy’n cael gwasanaeth ar hyn o bryd mewn sefydliadau cleifion mewnol yn Lloegr, ysgrifennodd Gweinidog Iechyd diwethaf Cymru ataf i ddatgan bod y wybodaeth hon yn anghywir—nid oes polisi cudd i ddychwelyd cleifion i Gymru. Fodd bynnag, mewn cyfarfod gydag Ysbyty Iarlles Caer ym mis Medi 2013, dywedwyd wrthyf fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn lleihau neu’n canslo atgyfeiriadau ac yn tynnu gweithgarwch yn ôl dros y ffin, er nad oedd ganddynt gapasiti i wneud hynny. Fel y dywedasant, dylai’r ffocws fod ar y claf ac roeddent yn awyddus i gyfrannu at ddarparu gofal trawsffiniol cyflymach, gwell a mwy economaidd.
Yn gynnar y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn comisiynu clinigau rheoli poen o Loegr ar ôl i restrau aros yng Nghymru gyrraedd 78 wythnos. Cysylltodd etholwyr â mi a oedd mewn poen ac a oedd bob amser wedi cael eu triniaeth yn Ysbyty Iarlles Caer, ond yn lle hynny roeddent bellach yn cael eu rhoi ar restrau aros hir yng Nghymru. Pan soniais wrth y bwrdd iechyd am hyn, roeddent yn cydnabod bod amser aros am y gwasanaeth hwn, ond nad oeddent wedi llwyddo i sicrhau capasiti GIG ychwanegol yng ngogledd-orllewin Lloegr. Felly, cysylltais â phrif weithredwr Ysbyty Iarlles Caer a atebodd fod Cymru wedi tynnu allan o’u gwasanaeth poen ddwy flynedd ynghynt ac o ganlyniad, ni allent dderbyn atgyfeiriadau o Gymru bellach. Ond ychwanegodd: efallai fod hyn yn rhywbeth y gallech ei drafod gyda Llywodraeth Cymru i weld a oes ewyllys gwleidyddol i ni gael ein gweld fel rhan o’r ateb gofal iechyd acíwt yng ngogledd Cymru.
Pan wneuthum hyn, fodd bynnag, trosglwyddodd y Gweinidog iechyd ar y pryd y baich yn ôl i’r bwrdd iechyd.
Er bod y protocol Cymru-Lloegr ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd trawsffiniol wedi ei roi ar waith ym mis Ebrill 2013 i wella cyfathrebu, mae Cydffederasiwn GIG Cymru yn datgan yn awr fod angen i’r broses o wneud penderfyniadau ar y ddwy ochr i’r ffin fod yn fwy cydgysylltiedig, yn fwy cydlynus ac yn fwy tryloyw. Mynegwyd pryder yn adroddiad 2016 y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ar drefniadau iechyd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr fod yna ddiffyg cyfathrebu ynglŷn â newidiadau i wasanaethau gofal iechyd, a allai gael effaith ar draws y ffin, ac argymhellodd y dylid rhoi protocolau ffurfiol ar waith i sicrhau bod ymgynghori’n digwydd rhwng byrddau iechyd lleol Cymru a grwpiau comisiynu clinigol yn Lloegr pan fo newidiadau i wasanaethau’n effeithio ar boblogaethau ar draws y ffin.
Fel y dywedodd Dr Dai Lloyd yma yn 2009:
‘Mae cenhedloedd aeddfed yn cydweithio ar draws ffiniau mewn dull hanesyddol er lles iechyd eu holl bobloedd.’
Dyna ffordd ragorol o’i roi. Fel y dywedais ar y pryd, rhaid i ni ar bob cyfrif osgoi llen lechi mewn gwasanaethau rhwng y ddwy genedl Brydeinig hyn. Dylai ein ffin hir a thyllog fod yn achos dathlu a chydweithredu, yn hytrach na rhwystr i effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.