Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Mi fydd Plaid Cymru’n cefnogi’r cynnig yma a’r gwelliant. Mae’r argymhellion a gafodd eu gwneud gan y Pwyllgor Dethol Materion Cymreig yn rhai synhwyrol; rydw i’n gobeithio y bydd Llywodraethau ar ddwy ochr y ffin yn eu hystyried nhw. Mae llif trawsffiniol o gleifion, wrth gwrs, yn beth cyffredin iawn, iawn ar draws Ewrop, ac yn sicr ar draws y byd. Rwy’n siŵr ei bod yn aml yn gwneud synnwyr i glaf groesi ffin i gael y driniaeth fwyaf priodol. Mi allwn i dynnu sylw at sawl enghraifft o gydweithio. Mae enghreifftiau’n cynnwys rhannu cyfleusterau iechyd yn yr ardal denau ei phoblogaeth yna ar y ffin rhwng Ffrainc a Sbaen yn y Pyreneau; yswirwyr yn yr Iseldiroedd yn contractio efo ysbytai’r Wlad Belg ar gyfer gwasanaethau arbenigol; a merched yn Ffrainc yn dewis rhoi genedigaeth yng Ngwlad Belg oherwydd agosatrwydd daearyddol a hefyd canfyddiad o ansawdd gwell o ofal. Felly, nid ydy hyn yn ddim byd newydd. Mae o o fudd, felly, i bawb gael pethau’n iawn ac i roi trefn ar y math a’r lefel o gydweithio sy’n cymryd lle.
Mae yna ambell i fater y byddwn i’n dymuno eu codi. Y cyntaf ydy bod sawl cynnig ar y bwrdd ar hyn o bryd i ganoli gwasanaethau brys yn Lloegr, ac yn ôl bob tebyg, mwy ar y gweill. Mae’r rhain yn anochel yn mynd i effeithio ar bobl mewn rhannau o Bowys a’r gogledd yn arbennig, a fydd yn wynebu pellteroedd teithio mwy fyth mewn sefyllfaoedd o argyfwng, ac, o ganlyniad, yn wynebu mwy o risg. Rydw i’n gofyn i Lywodraeth Cymru gydnabod hynny ac i ystyried pa drefniadau allai gael eu gwneud i liniaru effeithiau’r newidiadau yma. Nid dadl yn erbyn gwasanaethau trawsffiniol ydy hyn. Cofiwch beth a ddywedais i ar y dechrau—mae teithio ar draws ffiniau yn digwydd yn aml pan fo hynny’n gwneud synnwyr daearyddol. Mewn sefyllfa lle mae pobl yn gorfod teithio dros dair awr yn y gogledd am wasanaeth dros y ffin, nid ydy hynny’r un fath. Mae o’n annerbyniol. Mae pellteroedd felly’n awgrymu i mi’r angen i gynllunio gwasanaeth iechyd sydd yn fwy addas ar gyfer ardal wledig.
Yr ail bwynt ydy y gallai newidiadau i wasanaethau fod o fantais i Gymru os oes gennym ni yma yr agwedd gywir. Yn rhy aml, rydw i’n meddwl, yn y gorffennol, mae gwasanaethau arbenigol wedi cael eu gweld fel rhywbeth mae pobl yng Nghymru’n gorfod teithio i Loegr i’w cael nhw, efallai am nad oes gennym ni’r boblogaeth angenrheidiol i gyfiawnhau’r gwasanaethau yma, ond cofiwch fod yna fwy o bobl yn dod o Loegr i weld GP na sy’n mynd o Gymru i Loegr ar gyfer gofal sylfaenol. Os ydym ni’n ystyried pobl yn Lloegr sy’n byw wrth y ffin fel darpar ddefnyddwyr gwasanaethau arbenigol yng Nghymru, yna mi allwn ni gyfiawnhau sefydlu, neu ddatblygu neu gryfhau gwasanaethau o’r fath yma, a dod ag arian i mewn i’n gwasanaethau yma, yn ogystal hefyd—ac mae hyn yn bwynt pwysig—â chynyddu atyniad yr NHS yng Nghymru i ddarpar staff ac ati. Felly, mi fyddwn i’n gofyn i’r Llywodraeth a’r Ysgrifennydd Cabinet i gadw llygad ar newidiadau mewn gwasanaethau yn Lloegr i weld os oes yna newidiadau yno yn rhoi sgôp inni ehangu ein gwasanaethau yma. Wedi’r cyfan, fel y clywsom ni gan Eluned Morgan, mae ein poblogaeth ni yn ychwanegu at y ‘critical mass’ i helpu i gynnal gwasanaethau yn Lloegr, ac mi allem ni droi hynny ar ei ben wrth gynnig rhagor o wasanaethau i’n cymdogion ninnau.
Yn olaf, rydw i am symud at y materion trawsffiniol nad ydynt yn effeithio ar Gymru a Lloegr ond sy’n effeithio ar Gymru a gweddill Ewrop. Siarad ydw i am yr hawliau sydd gan ddinasyddion Cymru i driniaeth feddygol yn Ewrop wrth gario cerdyn yswiriant iechyd Ewropeaidd ac, wrth gwrs, yr hawliau sydd gan ddinasyddion Ewropeaidd i driniaeth wrth ymweld â Chymru. Er fy mod i’n siŵr fy mod i’n gallu eithrio un blaid yn y Siambr yma o’r consensws sy’n datblygu ar ofal trawsffiniol, mae’r gweddill ohonom ni, gobeithio, yn parhau i fod yn gefnogol i wasanaethau iechyd trawsffiniol Cymru-Ewropeaidd o’r fath. Felly, mi fuaswn i’n licio cael sicrwydd nad yw’r math yma o ofal iechyd trawsffiniol yn mynd i gael ei adael allan o ystyriaethau Llywodraethau.
I gloi, felly, fel rydw i’n dweud, mi fydd Plaid Cymru yn cefnogi’r cynnig yma heddiw, ac rydw i’n nodi, yn fy ngeiriau olaf, os gall gwledydd eraill ar draws Ewrop ddatrys agweddau ymarferol iechyd trawsffiniol, yna’n sicr mi allwn ni ddatrys materion trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr hefyd, a hynny er budd pobl ar y ddwy ochr i’r ffin.