<p>Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru yn Ninbych-y-pysgod</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 30 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 1:34, 30 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i Angela am ei chwestiwn? Fel y dywedoch, mae gan ysgol newydd yr Eglwys yng Nghymru yn Ninbych-y-pysgod ddarpariaeth anghenion addysgol arbennig ragorol yn yr ysgol. Mae sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg ar ei safle ei hun yn Ninbych-y-pysgod yn ddatblygiad y dylid ei groesawu. Mae’n ateb y galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg yn y rhan honno o’r byd, ac rwy’n falch iawn fod Sir Benfro wedi buddsoddi yn yr ysgol honno. Mae’n uchelgais gennyf ein bod yn sicrhau bod cydraddoldeb yn ganolog i bopeth a wnawn ym maes addysg, ac mae mynediad drwy gyfrwng y Gymraeg at gefnogaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn hanfodol wrth sefydlu hynny. Byddwch yn gwybod fod Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a minnau yn bwriadu cyhoeddi Bil anghenion dysgu ychwanegol cyn y Nadolig, a bydd sicrhau darpariaeth gyfartal i’r myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.