<p>Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru yn Ninbych-y-pysgod</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 30 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:35, 30 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hatebion hyd yn hyn. Mae hon yn un o’r ysgolion yr unfed ganrif ar hugain cyntaf yn Sir Benfro, wrth gwrs, felly mae angen i ni ddysgu o’r profiad hwn, nad yw wedi bod yn berffaith, ond dyna yw proses ddysgu. A chytunaf ag Ysgrifennydd y Cabinet mai cyfrifoldeb y cyngor sir yn awr, mewn gwirionedd, yw trafod yn briodol â llywodraethwyr yr ysgol ynglŷn â darparu’r cyfleusterau ychwanegol, neu’r cyfleusterau y mae rhai pobl yn teimlo eu bod ar goll o ysgol yr unfed ganrif ar hugain. Ac mae fy nghydweithiwr ym Mhlaid Cymru, Michael Williams, eisoes wedi dwyn hynny i sylw Cyngor Sir Penfro’n uniongyrchol. Felly, pan fyddwch yn ymweld yfory, Weinidog, a fyddwch mewn sefyllfa i edrych ar yr holl gyfleusterau hyn eich hun—rwy’n siŵr y byddwch—ond yn benodol, os byddwch yn gweld ac yn clywed bod yna broblem yno o hyd, a wnewch chi ddefnyddio’r cyfle i siarad yn uniongyrchol â’r cyngor sir er mwyn datrys y problemau hyn cyn gynted ag y bo modd?