Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Simon, mae fy swyddogion eisoes wedi cysylltu â Chyngor Sir Penfro ynglŷn â’r datganiadau a wnaed am y cyfleusterau yn yr ysgol. Mae’r cyngor sir yn herio rhai o’r datganiadau a wnaed, ond yn cydnabod eu bod yn gywir ynglŷn â phethau eraill, megis, er enghraifft, ailddefnyddio dodrefn ysgol o’r ysgolion blaenorol. Nawr, wrth ddatblygu ysgol newydd, byddai’r cyngor sir fel arfer yn cysylltu â’r corff llywodraethu dros gyfnod o amser i fynd i’r afael â’r pryderon penodol hyn. Gan fod hon yn ysgol newydd, nid oedd y trefniadau arferol hynny ar waith, ac mae Cyngor Sir Penfro wedi rhoi sicrwydd i fy swyddogion eu bod yn bwriadu gweithio ar y cyd gyda’r corff llywodraethu a’r pennaeth i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon eraill. Byddaf yn gweld y cyfleusterau fy hun yfory, a bydd fy swyddogion yn parhau i weithio gyda Chyngor Sir Penfro a’r ysgol i sicrhau bod y plant yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt.