Part of 3. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Diolch am y cwestiwn. Ac unwaith eto, mae’n debyg y dylwn ailadrodd, er bod cyfarfodydd gyda swyddogion y gyfraith yn digwydd, fod pynciau trafod y cyfarfodydd hynny, am resymau amlwg, yn gyfrinachol, ac eithrio, yn amlwg, y ffaith fod yna faterion o ddiddordeb cyffredin i’w trafod.
Yn sicr, mae’n tynnu sylw at bwynt a nodir yn adroddiad Comisiwn y Gyfraith, sy’n ymdrin yn helaeth â materion yn ymwneud â chodeiddio, ac sy’n ymdrin, rwy’n meddwl, â’r pwyntiau a nodwch o ran yr angen am fframwaith clir a hygyrchedd mewn perthynas â deddfwriaeth Cymru. Mae hynny’n rhywbeth sy’n cael ei adolygu’n helaeth ar hyn o bryd, a gobeithiaf allu gwneud datganiad ar yr union bwynt hwn ar ryw adeg yn y dyfodol.