<p>Bil Cymru</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 30 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:31, 30 Tachwedd 2016

Heb geisio perswadio y Cwnsler Cyffredinol i fynd i faes gwleidyddol, a fyddai o’n cytuno mai un o’r gwendidau mawr yn yr holl drafodaethau yr ydym ni wedi bod yn eu canol, yn enwedig yn yr ail Dŷ, ynglŷn â Bil Cymru, ydy amharodrwydd swyddogion cyfraith a Gweinidogion y Deyrnas Unedig i gyfnerthu a chysoni cyfansoddiad Cymru yn gliriach, ar gyfer pobl Cymru, ac ar gyfer gwleidyddion Cymru, ac, yn wir, ar gyfer pawb o ddinasyddion Cymru? Ac, a oes modd iddo fo, fel ein prif gyfreithiwr ni yng Nghymru, gynnal trafodaethau uniongyrchol gyda swyddogion cyfraith yng ngweddill y Deyrnas Unedig, ynglŷn â’r angen difrifol i ddod â chyfansoddiad Cymru o leiaf ychydig bach yn debycach yn ei eglurder i gyfansoddiad Gogledd Iwerddon a’r Alban?