<p>Effaith Cau Banciau ar Fusnesau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 6 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:30, 6 Rhagfyr 2016

Diolch i chi am eich ateb. Rydym yn gwybod, wrth gwrs, fod adroddiad Ffederasiwn y Busnesau Bach ym mis Hydref yn dangos yn glir yr effaith mae hyn yn ei chael ar fusnesau bach—er enghraifft, busnesau’n gorfod cau yn gynt a cholli busnes oherwydd bod yn rhaid teithio’n bellach i fancio’r arian. Ac mae’r British Bankers Association hefyd wedi dangos yn glir fod benthyca i fusnesau mewn ardaloedd lle mae canghennau wedi cau yn disgyn yn sylweddol. Felly, rydych chi wedi cyfeirio at yr adroddiad roeddech yn sôn amdano fe yn eich ateb. A allwch chi ymhelaethu ar beth yn union rydych chi’n mynd i’w wneud fel Llywodraeth, a pha drafodaethau rydych chi wedi’u cael gyda’r banciau, efallai, er mwyn edrych ar fodelau amgen o gadw gwasanaethau yn rhai o’r trefi yma sydd wedi colli canghennau?