<p>Effaith Cau Banciau ar Fusnesau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 6 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:31, 6 Rhagfyr 2016

Un o’r pethau rŷm ni wedi’i wneud yw sicrhau bod arian ar gael i swyddfeydd post, yn enwedig y rheini yn yr ardaloedd gwledig, er mwyn iddyn nhw allu sicrhau bod y gwasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd gan fanciau yn cael ei barhau ganddyn nhw, sef, er enghraifft, talu sieciau i mewn, tynnu arian allan. Ond byddwn i’n dweud wrth y banciau ei bod hi’n bwysig dros ben i sicrhau, lle mae busnesau yn defnyddio banciau ar hyn o bryd i ddodi arian gleision mewn i’r banc, fod yna adnoddau ar gael yn y dyfodol er mwyn gadael iddyn nhw wneud hynny, efallai mewn swyddfa bost neu mewn rhyw ffordd arall sydd yn gyfleus i’r busnesau hynny.