1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 6 Rhagfyr 2016.
1. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith cau banciau ar fusnesau Cymru? OAQ(5)0322(FM)[W]
Er mai mater masnachol i’r banciau yw penderfyniadau am gau canghennau, rŷm ni’n cydnabod yr effaith negyddol mae hyn yn gallu ei chael ar fusnesau lleol. Rydym ni’n croesawu’r adolygiad diweddar gan yr Athro Griggs, sydd wedi gwneud argymhellion ynghylch gwella’r ffordd y mae banciau’n ymgysylltu â chymunedau.
Diolch i chi am eich ateb. Rydym yn gwybod, wrth gwrs, fod adroddiad Ffederasiwn y Busnesau Bach ym mis Hydref yn dangos yn glir yr effaith mae hyn yn ei chael ar fusnesau bach—er enghraifft, busnesau’n gorfod cau yn gynt a cholli busnes oherwydd bod yn rhaid teithio’n bellach i fancio’r arian. Ac mae’r British Bankers Association hefyd wedi dangos yn glir fod benthyca i fusnesau mewn ardaloedd lle mae canghennau wedi cau yn disgyn yn sylweddol. Felly, rydych chi wedi cyfeirio at yr adroddiad roeddech yn sôn amdano fe yn eich ateb. A allwch chi ymhelaethu ar beth yn union rydych chi’n mynd i’w wneud fel Llywodraeth, a pha drafodaethau rydych chi wedi’u cael gyda’r banciau, efallai, er mwyn edrych ar fodelau amgen o gadw gwasanaethau yn rhai o’r trefi yma sydd wedi colli canghennau?
Un o’r pethau rŷm ni wedi’i wneud yw sicrhau bod arian ar gael i swyddfeydd post, yn enwedig y rheini yn yr ardaloedd gwledig, er mwyn iddyn nhw allu sicrhau bod y gwasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd gan fanciau yn cael ei barhau ganddyn nhw, sef, er enghraifft, talu sieciau i mewn, tynnu arian allan. Ond byddwn i’n dweud wrth y banciau ei bod hi’n bwysig dros ben i sicrhau, lle mae busnesau yn defnyddio banciau ar hyn o bryd i ddodi arian gleision mewn i’r banc, fod yna adnoddau ar gael yn y dyfodol er mwyn gadael iddyn nhw wneud hynny, efallai mewn swyddfa bost neu mewn rhyw ffordd arall sydd yn gyfleus i’r busnesau hynny.
Yn y misoedd diwethaf, mae dau fanc mawr wedi cau canghennau yn Nelyn—HSBC yn y Fflint a Barclays yn Nhreffynnon, a NatWest yw'r diweddaraf i gyhoeddi ei fod yn cau cangen yn Nhreffynnon hefyd. Er fy mod yn cydnabod y camau y mae’r banciau hyn wedi eu cymryd i sicrhau y gall cwsmeriaid bancio personol gael mynediad at eu cyfrifon yn y swyddfa bost, mewn llawer o ardaloedd, mae dyfodol y swyddfeydd post hyn yn bell o fod yn sicr hefyd. Ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, roeddwn i’n trafod hyn yn siop torri gwallt Sweeney Ted yn Nhreffynnon—a gallaf gadarnhau bod pobl wedi cerdded allan â dim ond eu gwalltiau wedi eu torri—o ran y problemau a grëwyd yn sgil cau’r banc arall hwn a'r effaith benodol efallai ar gymunedau gwledig a’r busnesau hynny sy'n gorfod teithio ymhellach gyda symiau sylweddol o arian. Felly, rwy'n siŵr, eich bod, Brif Weinidog, yn rhannu fy mhryder i, a’r Aelodau eraill, am effaith cau’r canghennau hyn, a hoffwn ofyn pa gyngor a chymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i fusnesau bach yng nghanol trefi sy'n cael eu heffeithio gan achosion o gau o'r fath.
Wel, mae'n fater yn y pen draw o sicrhau bod swyddfa’r post yn gallu darparu'r math o wasanaethau bancio y byddai busnesau yn eu disgwyl. Mae natur bancio wedi newid dros y blynyddoedd. Mae llai a llai o bobl yn mynd i fanciau. Yr hyn sy'n gwbl hanfodol yw bod gan bobl y cyfleuster i godi arian, bod gan bobl y cyfleuster i adneuo sieciau ac arian parod mewn sefydliad ariannol a hefyd, wrth gwrs, bod busnesau bach yn gallu adneuo arian parod ar ddiwedd y dydd pan fydd eu busnesau’n cau. Mae'n hynod bwysig, lle mae banciau yn gadael cymunedau, bod y swyddfa bost yn gallu gwneud hynny, gan gynnig dilyniant gwasanaeth. A dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni wedi rhoi cymorth ariannol i swyddfeydd post dros y blynyddoedd, i sicrhau bod gan gymunedau eu swyddfeydd post sy'n gallu cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau.
Brif Weinidog, efallai eich bod chi’n ymwybodol bod banc Lloyds yn cynnig cau tair cangen yn fy etholaeth i, a, Llywydd, dylwn i ddatgan diddordeb yn y cwestiwn hwn fel cyn-weithiwr ym manc Lloyds. Nawr, nid yn unig mae cau’r canghennau yma yn fy etholaeth i yn gwbl anghymesur â’r nifer sy’n cau ar lefel Brydeinig, ond maent yn hanfodol i lawer o bobl sy’n byw yn, ac o gwmpas, y cymunedau hynny, ac felly, bydd eu cau yn cael effaith ddinistriol. Rwy’n derbyn mai mater masnachol gan y banc yw hyn, ond, yn dilyn ymlaen ar y cwestiynau blaenorol, pa gefnogaeth benodol y gall Llywodraeth Cymru ei chynnig i’r cymunedau hyn, a beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i liniaru’r effeithiau negyddol y bydd cau’r canghennau hyn yn eu cael ar gymunedau?
Rwy’n deall bod Trefdraeth, Abergwaun ac Aberdaugleddau â chynlluniau i’w cau nhw. Beth sy’n hollbwysig yw bod y gwasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd trwy’r banciau ar gael mewn ffordd arall os yw’r canghennau’n cau. Mae hynny’n meddwl gweithio drwy’r swyddfa bost er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau ar gael drwy’r swyddfa bost. Mae hynny, wrth gwrs, yn sicrhau bod y gwasanaeth ar gael i bobl leol, ac yn sicrhau bod mwy o fasnach a gwaith i’r swyddfa bost, i helpu’r swyddfa bost i gadw i fynd hefyd. Ond beth na fyddwn i eisiau gweld—ac mae hyn yn rywbeth rŷm ni wedi sicrhau sydd ddim wedi digwydd yn yr ardaloedd gwledig yn enwedig—yw swyddfa bost yn cau hefyd ac felly’r gwasanaethau yn cael eu colli yn gyfan gwbl mewn cymuned. Byddai hynny’n rhywbeth y byddwn i ddim eisiau ei weld, a dyna pam, wrth gwrs, rŷm ni wedi bod yn eu cefnogi nhw’n ariannol.