<p>Polisi Amaeth</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 6 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:05, 6 Rhagfyr 2016

Rwyf wedi dweud hyn o’r dechrau, wrth gwrs, fod amaeth wedi cael ei ddatganoli. Nid cyfle yw hwn i dynnu pwerau oddi wrth bobl Cymru; dim o gwbl. Efallai bod yna achos i ystyried rhai pethau fel, fel rwyf wedi dweud o’r blaen, iechyd anifeiliaid i gael rhyw fath o bolisi sydd ar draws Prydain Fawr, ond dim ond drwy gytuno, ac nid bod San Steffan sy’n dweud, ‘Hyn sy’n mynd i ddigwydd ar yr ynys hon, ac nid oes dewis gyda chi yng Nghymru na’r Alban.’ Felly, cytundeb sy’n bwysig fan hyn, ac nid dim byd arall. Efallai y byddai’n werth siarad am ryw fath o fframwaith eithaf llac a chyffredinol, ond siarad a chytuno sy’n hollbwysig i hyn. Na, nid yw hwn yn gyfle i dynnu pwerau oddi wrth ffermwyr Cymru, Llywodraeth Cymru na phobl Cymru.